Skip to main content

Pay As You Go’ Extends to Maesteg line

02 Hyd 2024

Bellach, mae'r opsiwn ‘Talu Wrth Fynd’ ar gael ar wasanaethau ar lein Maesteg (o ddydd Llun 30ain Medi).

Mae Talu Wrth Fynd yn gwneud teithio yn gyflymach, yn haws ac yn rhatach.  Lansiodd Trafnidiaeth Cymru y cynllun ym mis Ionawr ar wasanaethau rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun.

Yn dilyn ei lwyddiant ar lein Glynebwy ym mis Mawrth, bydd ar gael mewn naw gorsaf arall ar hyd lein Maesteg (gan gynnwys Llanharan, Pencoed a Phen-y-bont ar Ogwr).

Erbyn diwedd 2024 nod TrC yw ehangu'r cynllun i bob un o'r 95 o orsafoedd Metro De-ddwyrain Cymru.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn parhau i symud ymlaen gyda'n cynllun ‘Talu Wrth Fynd’.  Pleser yw cyhoeddi ei fod bellach ar gael mewn 9 gorsaf arall ar lein Maesteg.

“Byddwn yn parhau i ehangu'r cynllun drwy gydol y flwyddyn.  Mae Talu wrth Fynd yn ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid; mae'n gwella eu profiad ac mae'n denu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

I ddarllen ymhellach, ewch i  Talu Wrth Fynd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)  

Llwytho i Lawr