Skip to main content

"Small Talk Saves Lives" - Train Manager shares powerful story of intervention

20 Ion 2025

Er gall blwyddyn newydd olygu dechreuad newydd, gall hefyd fod yn adeg heriol i’r sawl sy’n wynebu trafferthion.

O ganlyniad i’r pwysau ychwanegol yn ogystal â thrafferthion iechyd meddwl, mae’r Samariaid yn ymgyrchu i ail-enwi’r trydydd dydd Llun ym mis Ionawr yn ‘Paned Dydd Llun’ (Brew Monday), sef diwrnod lle anogir pobl i sgwrsio dros baned.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n cefnogi ymgyrchoedd megis ‘Ychydig Eiriau yn Achub Bywydau’ (Small Talk Saves Lives) a ‘Paned Dydd Llun’ (Brew Monday) er mwyn annog pobl i siarad.

Mae gan y rheolwr trên yng Nghaerdydd, Lydia Sheppard, lawer o brofiad o ymyrryd â phobl sydd â thrafferthion.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi ymyrryd â thri chwsmer oedd yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn.

“Ar ddwy o’r adegau hynny, roedd yn eithaf amlwg eu bod nhw’n ofidus iawn ond ar y drydedd adeg roedd ychydig yn wahanol - roedd gen i deimlad fod rhywbeth o le,” dywedodd Lydia.

“Roedd y fenyw newydd ffarwelio â rhywun ar y trên ond roedd hi’n llefain wrth ymyl y platfform ac roedd gen i’r teimlad ei bod hi’n fwy na’n drist o ganlyniad i ddweud hwyl fawr.”

Dim ond pedair munud oedd i fynd tan y trên cyflym nesaf a gwnaeth Lydia felly ofyn i’r llinell gael ei rwystro a chysylltodd â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a ddaeth i helpu’r fenyw.

Ar adeg arall, roedd cwsmer wedi mynd ar y llinell trên ar ddiwedd y platfform ac roedd yn rhaid i Lydia siarad â hi nes bod cymorth yn dod.

“Y pethau pwysicaf yw peidio â chynhyrfu a thawelu meddwl yr unigolyn drwy sicrhau iddynt nad ydynt mewn unrhyw drafferth, hyd yn oed os ydynt yn clywed seiren,” ychwanegodd Lydia.

“Os yw rhywun yn ofidus, mae gwneud rhywbeth syml fel dweud ‘helo’ yn gallu amharu ar y meddyliau niweidiol sydd ganddynt.”

Yn TrC, rydym yn gweithio’n agos â’r Samariaid wrth hyfforddi cydweithwyr.

Hyd at a gan gynnwys mis Rhagfyr 2024, maent wedi darparu’r sesiwn i 651 o gydweithwyr a phartneriaid profedig, gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a chydweithwyr sy’n gwerthu nwyddau yn yr orsaf.

Dywedodd Bethan Hodges o’r Samariaid yng Nghymru: “Gall wrando ar rywun sydd wedi cyrraedd pwynt argyfwng ynghyd â’u rhesymau dros fod yno, fod yn anodd iawn. Rydym ar gael 24/7 i wrando a thrafod sut maent yn teimlo, a gall rheolwyr drefnu i Samariaid ffonio yn ôl pan fo’n gyfleus.

“Un peth dwi wedi sylwi arno yw bod pobl efallai wedi ymyrryd mewn sefyllfa o’r fath sbel yn ôl ac maent yn teimlo bod y foment i dderbyn cymorth wedi pasio. Dwi felly bob amser yn pwysleisio bod dim cyfyngiadau amser ar gymorth – mae cymorth ar gael drwy’r amser, yn ystod y dydd neu gyda’r nos.

“Hoffai’r Samariaid ddiolch i aelodau staff Trafnidiaeth Cymru am fod yno i wrando ar bobl yn ystod yr adegau anoddaf. Rydych wedi achub bywydau ac rydym mor falch ohonoch.”

Llwytho i Lawr