03 Awst 2023
Mae Cynon Valley Organic Adventures wedi ychwanegu sbarc o hud at eu darn pum erw o dir, diolch i'n cefnogaeth ni.
Derbyniodd y fenter gymdeithasol, sy’n hyrwyddo arferion cynaliadwy, cadwraeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol yn Abercynon, arian gennym ni ar gyfer creu a datblygu ‘gardd reilffordd hudolus y tylwyth teg’.
Maent hefyd yn cynnig dysgu achrededig i weddu i bob angen, lleoliadau gwirfoddolwyr, gweithgareddau presgripsiwn cymdeithasol, diwrnodau gwirfoddoli corfforaethol a gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol rheolaidd.
Mae’r ardd sy’n cael ei chreu a’i defnyddio gan bobl ifanc sy’n mynychu’r safle yn cynnwys plannu synhwyraidd, nodweddion hudol organig fel creigiau, caws llyffant a chimes gwynt, giât lleuad a man dysgu awyr agored a elwir yn lleol yn ‘dŷ hobbit’.
Ar draws y safle mae blychau bywyd gwyllt wedi’u gosod ac mae cyllid hefyd wedi helpu gyda datblygu prosiect gwenyn ar gyfer ysgolion a phobl ifanc yr ardal.
Cefnogi iechyd a lles corfforol a meddyliol, ymgysylltu â phobl ifanc ac ysgolion a darparu cyfleoedd i gysylltu â natur a’r dirwedd o’i amgylch, yn gorfforol ac yn ddychmygol, oedd y grym y tu ôl i’r syniad hwn.
Dywedodd Janis Werrett, Cyfarwyddwr Cynon Valley Organics: “Fe wnaethon ni rentu’r tir diffaith yn 2018 gyda’r bwriad o helpu pobl i wella lles trwy addysg ac ymgysylltu â byd natur. Bum mlynedd yn ddiweddarach rydym yn berchen ar y tir ac mae gennym bartneriaid anhygoel sy'n cefnogi ein gwaith ac yn ein helpu i ffynnu.
“Diolch i’r cyllid a chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru rydym wedi gallu ehangu ein gwaith gyda’r ysgolion lleol. Ein tŷ hobbit fydd y ganolfan ar gyfer ein dosbarthiadau, ac rydym wedi adeiladu ein gerddi synhwyraidd a hudolus. Mae’r cyllid hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar draws y safle cyfan, gyda choed ffrwythau newydd yn cael eu plannu a’n perllan a’n hardal blodau gwyllt Celtaidd yn cael eu creu.”
Ychwanegodd Dr. Louise Moon, ein Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy: “Roeddem wrth ein bodd o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth ag Anturiaethau Organig Cwm Cynon i ddatblygu’r man gwyrdd hudolus hwn sy’n rhedeg ochr yn ochr â llwybr teithio llesol a rheilffordd - a cyntaf ar gyfer ein rhwydwaith yng Nghymru. Mae cydweithio â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn hynod bwysig i ni ac mae’n ein galluogi i gyflawni etifeddiaeth a rennir lle mae trafnidiaeth yn cyfrannu’n gadarnhaol at ein cymunedau a’n hamgylchedd nawr ac yn y dyfodol.”
Mae’r prosiect wedi’i ariannu gennym ni, wedi’i reoli gan y Tîm Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy a’i ddarparu gan Community Rail. Gyda deunyddiau a roddwyd i’r grŵp gan Gynghrair y Crynion. Bydd y safle hefyd yn gyrchfan hyderus i TrC i deithwyr.