Skip to main content

Concert season sees 60,000 people taken home safely by train

07 Gor 2023

Yn sgil pum cyngerdd mawreddog yng Nghaerdydd dros y pum wythnos ddiweddaf, gwelsom y diwydiant rheilffyrdd yn dod ynghyd i sicrhau bod pobl yn cael eu cludo gartref yn ddiogel.

Daeth Beyonce, Harry Styles a Coldplay â'u cyngherddau o safon fyd-eang i brifddinas Cymru, gan ddenu cefnogwyr o ogledd, gorllewin a de Cymru yn ogystal â Bryste, Llundain, Caerloyw, Birmingham a Henffordd.

Yn sgil yr holl gyngherddau yn ystod mis Mai a Mehefin, cafodd 58,851 eu cludo gartref yn ddiogel ar y trên ar yr un noson ynghyd â sawl mil a arhosodd dros nos gan deithio gartref y diwrnod canlynol.

Roedd pob digwyddiad yn cael ei drin fel digwyddiad ‘Categori A’ gyda chynllun digwyddiad pwrpasol ar waith i sicrhau y gellid rheoli niferoedd mawr o bobl yn ddiogel.

Gan fod y cyngherddau ganol wythnos oll yn dod i ben tua 10:30pm, roedd yn rhaid cynllunio gwasanaethau ychwanegol y tu hwnt i'r amserlen arferol.

Darparwyd 150 o wasanaethau ychwanegol ar ôl y pum cyngerdd, lle gwelwyd Trafnidiaeth Cymru, Great Western Railway a Cross Country Trains yn cydweithio.

Dywedodd Jonathan Goode, Rheolwr Digwyddiadau Arbennig Trafnidiaeth Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn gweld digwyddiadau mawr cael eu cynnal yng Nghaerdydd ac mae pob amser awyrgylch gwych yn y ddinas.

“Mae cyngherddau canol wythnos bob amser yn her gan fod pobl eisiau mynd gartref yr un noson ar gyfer y gwaith neu’r ysgol y bore canlynol, ond gydag amserlen arferol, dim ond llond llaw o wasanaethau fyddai ar gael.

“Felly, rydyn ni'n gwneud ein gorau i roi cymaint o drenau a cherbydau ychwanegol ar waith ag y gallwn ni eu darparu ac rydyn ni'n falch iawn ein bod ni, ynghyd â'n partneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd a BTP, wedi llwyddo i gludo 60,000 o bobl gartref yn ddiogel.”

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gwasanaeth a Gweithrediadau Cwsmeriaid GWR: “Roedd Caerdydd Canolog yn hynod o brysur yn dilyn y cyngherddau hyn ac rydym yn falch iawn o fod wedi dod at ein gilydd fel rhan o'r teulu rheilffordd i helpu i gludo pobl gartref yn ddiogel.

“Roedd gallu darparu trenau ychwanegol yn ogystal â'n gwasanaethau yn ein hamserlen arferol yn gwneud gwahaniaeth mawr.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n cwsmeriaid am fod mor amyneddgr wrth i ni helpu i reoli ciwiau yn dilyn y digwyddiadau.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Morgan o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Gall rheoli digwyddiadau mawr fod yn gymhleth ar adegau, ac yn aml, mae'n golygu bod degau o filoedd o deithwyr ychwanegol yn teithio ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd i Gaerdydd ac oddi yno ar yr un diwrnod. 

“Rydym yn cynllunio ymhell ymlaen llaw ac rydym yn sicrhau bod ein swyddogion heddlu a'n swyddogion dillad plaen yn cael eu gosod mewn mannau strategol, mannau lle byddant yn cadw'r cyhoedd teithiol a chydweithwyr rheilffyrdd yn ddiogel ar drenau ac mewn gorsafoedd.

“Rydym yn adolygu pob digwyddiad i sicrhau ein bod yn nodi unrhyw feysydd i'w gwella ac yn addasu'r cynllun nesaf yn unol â hynny, ac rydym bob amser yn gwneud hyn ochr yn ochr â'r holl bartneriaid allweddol, gan fod y mathau hyn o sefyllfaoedd yn galw am weithio fel tîm.”

Ychwanegodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a'r Gororau Network Rail: “Mae'n wych gweld y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn dod at ei gilydd ac yn llwyddo i gludo miloedd o bobl i mewn ac allan o Gaerdydd ar gyfer y digwyddiadau anhygoel hyn.  

“Gan weithio gyda'n partneriaid yn y diwydiant, rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu cludiant torfol i deithwyr ar gyfer digwyddiadau o'r fath, gan gadw pobl yn ddiogel a darparu gwasanaeth pleserus ac amserol ar yr un pryd.”

Mae'r digwyddiadau mawr nesaf yn Stadiwm Principality dros yr haf yn cynnwys tîm rygbi Cymru yn wynebu Lloegr a De Affrica wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd