13 Awst 2026
Mae'r diwydiant rheilffyrdd yn barod i groesawu miloedd o gefnogwyr pêl-droed i Gaerdydd ar gyfer Tarian Gymunedol yr FA gyda chynllun cydlynol ar waith i sicrhau profiad gwych i gefnogwyr ar ddiwrnod y gêm.
Gyda nifer fawr o gefnogwyr yn teithio o bob cwr o'r DU, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) Great Western Railway (GWR) a CrossCountry wedi alinio gweithrediadau ochr yn ochr â Network Rail i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, atgyfnerthu capasiti ar drenau a chynnig cymorth pwrpasol yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Mae'r gêm yn dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, gan ddod â dau o glybiau mwyaf y gêm i brifddinas Cymru cyn dechrau tymor 2026/27, wrth i Pencampwyr y Uwch Gynghrair, Arsenal, herio enillwyr Cwpan yr FA, Manchester City, yn Stadiwm y Principality ddydd Sul 16 Awst.
Er mwyn rheoli'r niferoedd disgwyliedig yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi system giwio ar waith yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines.
Bydd ciwio yn y ddwy orsaf yn dechrau o 16:45 gyda theithwyr sy'n teithio i'r Cymoedd neu Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio at orsaf Caerdydd Heol y Frenhines ar ôl y digwyddiad. Bydd pob ciw arall, gan gynnwys Glynebwy a Maesteg, yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Dywedodd Georgie Porter, Pennaeth Cynllunio a Chyflenwi Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o gefnogwyr pêl-droed i Gaerdydd ar gyfer yr hyn sy'n addo bod yn ddiwrnod gêm gwych.
"Gan weithio ochr yn ochr â gweithredwyr eraill, rydym wedi rhoi trefniadau teithio ar y cyd ar waith er mwyn sicrhau bod gennym gymaint o gapasiti â phosibl ar lwybrau allweddol. Bydd gorsafoedd a gwasanaethau yn brysur iawn a bydd ein cydweithwyr yn gweithio'n galed drwy gydol y dydd i gadw pawb yn symud yn ddiogel, felly cofiwch eu trin â'r caredigrwydd a'r parch y maent yn eu haeddu. Diolch."
Ychwanegodd Kay Davies, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digwyddiadau De Cymru ar gyfer Great Western Railway: "Mae'n wych bod yn gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn y diwydiant i groesawu'r Darian Gymunedol yn ôl i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
“Rydym wedi ychwanegu miloedd o seddi ychwanegol ar draws ein gwasanaethau i’r ddau gyfeiriad er mwyn cynyddu’r capasiti. Fodd bynnag, mae’r holl leoedd y gellir eu cadw ar drenau o Lundain sy’n cyrraedd Caerdydd mewn pryd ar gyfer y gic gyntaf bellach wedi’u gwerthu.
“Rydym yn annog cefnogwyr i ganiatáu amser teithio ychwanegol ac i wirio eu hopsiynau ar gyfer eu taith adref unwaith eto.”
Dywedodd Lauren Fleming, Rheolwr Digwyddiadau a Chydnerthedd CrossCountry: “Bydd trenau’n brysur ac rydym yn annog pawb i archebu tocynnau ymlaen llaw, caniatáu digon o amser a gwirio amser eu trên olaf adref cyn iddynt deithio.”
Bydd gwiriadau diogelu refeniw llawn ar waith ar draws y rhwydwaith a rhaid i gefnogwyr gael tocyn trên dilys cyn teithio.
Anogir cefnogwyr yn gryf i ganiatáu amser ychwanegol i gyrraedd gorsaf Caerdydd Canolog ac i wirio eu cysylltiadau ymlaen cyn teithio, yn enwedig os ydynt yn dal gwasanaethau olaf y noson.
https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/fa-community-shield-2026
Nodiadau i olygyddion
Trefnodd Network Rail i waith peirianneg ddechrau ar ôl Tarian Gymunedol yr FA 2026 yng Nghaerdydd, gan ganiatáu i gefnogwyr sy'n teithio i'r gêm ac yn ôl wneud hynny cyn i'r rheilffordd gau. Rhagor o wybodaeth yma: https://www.networkrailmediacentre.co.uk/news/railway-upgrades-this-august-to-deliver-a-more-reliable-and-flood-resilient-railway-for-north-wales-and-the-borders
Dylai teithwyr sy'n defnyddio talu wrth fynd ar draws rhwydwaith Metro De Cymru sicrhau eu bod yn tapio i mewn yn eu gorsaf darddiad ac yn tapio allan gan ddefnyddio union yr un dull talu yn eu cyrchfan. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru wedi'u lleoli ar draws lleoliadau allweddol drwy gydol y dydd i gynorthwyo teithwyr i dapio i mewn ac allan.
Nid yw talu wrth fynd yn ddilys ar wasanaethau Great Western Railway a dim ond ar wasanaethau TrC a CrossCountry yn ne-ddwyrain Cymru y gellir ei ddefnyddio, fel y dangosir ar y map hwn; TfW-PAYG-valley-lines-map-V5_BIL
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau, yn unol â’r ffyrdd fydd ar gau yng nghanol y ddinas, gan ailagor am 20:00.
Bydd y ddau faes parcio yng Nghaerdydd Canolog hefyd ar gau wrth i TrC baratoi ar gyfer y gwelliannau i'r orsaf, er y bydd y maes parcio aml-lawr yn parhau ar agor ac ar gael i'w ddefnyddio.
Bydd safle tacsis Heol Saunders ar gau o 09:45 tan 23:59.