Skip to main content

Mayor backs Christmas Safety Campaign

20 Rhag 2018

Mae Maer Amwythig, y Cynghorydd Peter Nutting, wedi cefnogi ymgyrch diogelwch y rheilffyrdd dros y Nadolig, ar ôl ceisio defnyddio un o orsafoedd y dref yn “feddw”.

Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sy’n arwain yr ymgyrch hon.

Rhoddwyd her i’r Cynghorydd Nutting, a oedd yn gwisgo gogls arbennig i gyfleu dylanwad alcohol arno, i ganfod ei ffordd at y peiriant tocynnau, prynu ei docyn, defnyddio’r rhwystrau a chanfod ei ffordd at y platfform cywir. Mae’r gogls yn creu dryswch, gan bylu’r golwg ac ystumio pethau.

“Fyddai dim gobaith gennych chi,” meddai'r Cynghorydd Nutting ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus i brynu tocyn i Church Stretton.

“Rydych chi’n gweld dau neu dri o bopeth. Mae wir yn gwneud i chi sylweddoli pa mor anodd a pheryglus y gall gorsaf fod ar ôl i chi fod yn yfed alcohol. Rydych chi’n clywed am bobl yn disgyn ar y cledrau neu’n taro i mewn i bethau’n aml, ac mae hyn yn dangos pa mor hawdd yw gwneud hynny os ydych chi’n feddw. Rydyn ni am i bobl fynd allan a mwynhau, ond y peth pwysicaf yw cyrraedd adref yn ddiogel.”

Ar ôl llwyddo i brynu ei docyn o’r diwedd, mentrodd y Cynghorydd Nutting at y grisiau a oedd yn arwain at y platfformau, gan afael yn y canllawiau wrth iddo ymlwybro i’r brig yn araf. Yna, ymbalfalodd heibio arwyddion gwybodaeth i deithwyr cyn ceisio darganfod o ble roedd ei drên yn gadael.

Dywedodd rheolwr diogelwch Trafnidiaeth Cymru, Simon Turton: “Roedd yn wych cael y Maer draw heddiw, i ddangos yn union pa mor anodd yw hi i ddefnyddio gorsaf ar ôl i chi yfed gormod. Rydyn ni’n atgoffa pobl i fod yn fwy gofalus tra byddan nhw allan dros y Nadolig. Mae llawer gormod o enghreifftiau o bobl ledled y DU yn cael damweiniau ar ôl yfed gormod neu gymryd risgiau diangen. Dydyn ni ddim am weld unrhyw un yn brifo, felly da chi, gofalwch amdanoch eich hun a’ch ffrindiau.”

ShrewsburyRailStationChristmasSafetyPromo2018.12.18-4

Dywedodd Phil Lucas, rheolwr gweithrediadau lleol Network Rail yng Nghymru a’r Gororau: “Rydyn ni am i bawb gael hwyl a mwynhau eu hunain dros yr ŵyl, ond ar ôl bod yn yfed, mae pobl yn aml yn cymryd mwy o risg, sy’n aml yn arwain at bobl yn brifo, neu hyd yn oed yn cael eu lladd.

“Teithio adref ar y trên yw’r ffordd fwyaf diogel yn sicr. Ond rydyn ni wedi gweld pobl feddw’n ceisio arbed amser drwy gerdded ar draws y cledrau, yn mentro ger croesfannau rheilffordd neu’n disgyn rhwng trên a’r platfform. Mae rhagor o ddamweiniau ar risiau symudol hyd yn oed ar ôl i bobl fod yn yfed. Da chi, byddwch yn ofalus ac edrychwch ar ôl eich ffrindiau - peidiwch â gadael i’r ddiod olaf arwain at benderfyniadau gwael.  Byddwch yn ffrind gwerth chweil a gofalwch am y rheini sy’n mynd adref ar y trên, ar ôl iddyn nhw gael un yn ormod.”

ShrewsburyRailStationChristmasSafetyPromo2018.12.18-16