Skip to main content

Improved Carmarthen – Aberystwyth link proves a hit with passengers

18 Awst 2023

Mae dros 100,000 o gwsmeriaid wedi teithio ar wasanaeth diweddaraf TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ers ei ail-lansio pryd ymgorfforwyd bysiau trydan i'r gwasanaeth yn gynharach eleni.

Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu o 16,000 ym mis Mawrth i 19,000 ym mis Ebrill, 23,000 ym mis Mai a 26,000 ym mis Mehefin a'r un fath eto ym mis Gorffennaf.

Mae'n gynnydd cyffredinol o 36,000 o deithwyr o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig Trafnidiaeth Cymru:

“Mae'r gwasanaeth a ail-lansiwyd wedi canolbwyntio ar ddarparu'r profiad gorau posibl i'n teithwyr tra'n cadw prisiau tocynnau'n fforddiadwy.

“Rydym yn hapus iawn gyda pha mor lwyddiannus y mae'r gwasanaeth wedi bod yn ystod y chwe mis cyntaf ers cyflwyno'r bysiau newydd.  Ein ffocws nawr yw parhau i wella ein gwasanaeth yn dilyn adborth defnyddwyr.”

Gwasanaeth T1 TrawsCymru, a weithredir gan First Cymru, yw'r contract bws cyntaf i gael ei reoli gan TrC.

Mae'r bysiau a ddefnyddir ar y gwasanaeth yn fodern tu hwnt, ac maent yn gweithredu o ddepo pwrpasol newydd yng Nghaerfyrddin.  Mae'r teithiau a wna'r bysiau trydan hyn ymysg rhai o'r teithiau bws trydan hiraf yn y DU – mae’r daith yn ôl ac ymlaen yn 104 milltir.

Mae pob cerbyd yn arbed 3kg o CO2 fesul taith gyflawn, sy'n cyfateb i dros 12,700 cwpan o de.

Mae'r bysiau'n cynnig nifer o nodweddion rhagorol a modern gan gynnwys goleuadau darllen, byrddau, gwefru diwifr a socedi USB, cadeiriau gyda breichiau, sgriniau gwybodaeth a system puro aer. 

Dywedodd Marie Cronin, Rheolwr Gweithrediadau First Cymru:

“Pleser yw gallu bod yn rhan o lwyddiant gwasanaeth T1 TrawsCymru.  Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid, a chyda'r busiau trydan hyn yn darparu technoleg o'r radd flaenaf a nodweddion sy'n gwella profiad ein cwsmeriaid, mae'r nifer cynyddol o deithwyr yn dyst i'r buddsoddiad hwnnw."

Ar y bysiau, mae’r wybodaeth a’r cyhoeddiadau am y safle bws nesaf yn ddwyieithog; mae hyn yn cefnogi ein defnyddwyr sydd a namau gweledol a/neu glyw a phobl sy'n newydd i deithio ar fws, y rheini sy'n anghyfarwydd â'r llwybr neu'r rheini sydd a diffyg hyder.

Mae teithwyr sy'n teithio i orsafoedd trenau yn elwa ar gyhoeddiadau byw ynghylch pryd amseroedd gadael ein trenau, sy'n cefnogi cludiant integredig ac aml-fodd.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Pleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw bod yn rhan o lansio'r gwasanaeth bws strategol allweddol hwn rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.  Mae wedi llwyddo i wella llwyddiant y gwasanaeth gyda gwasanaethau Flecsi - Bwcabws sy'n rhyng-gysylltiol, sy'n ymateb i'r galw ac sy'n rhoi gwybodaeth amser real i deithwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i   www.traws.cymru   

Llwytho i Lawr