18 Meh 2021
Mae gorsaf drenau Abertawe wedi derbyn gweddnewidiad dramatig ar ôl i Network Rail a Trafnidiaeth Cymru ddod at ei gilydd i ddarparu gwelliannau allweddol.
Agorodd yr orsaf am y tro cyntaf 171 o flynyddoedd yn ôl yr wythnos hon a’r buddsoddiad hwn o bron i £7.5m yw’r buddsoddiad mwyaf ers dros ddegawd a bydd yn sicrhau bod siwrneiau teithwyr yn fwy dibynadwy, cyfforddus a phleserus.
Mae bron y cyfan o blatfform pedwar wedi cael ei ailadeiladu ac erbyn hyn mae’n gallu delio â threnau 10 cerbyd, gan roi mwy o hyblygrwydd i deithwyr.
Mae’r orsaf ei hun wedi cael ei hadnewyddu’n helaeth gyda chyfleusterau prynu tocynnau gwell, toiledau newydd a mannau wedi’u hadnewyddu i gael eu defnyddio gan fusnesau lleol a grwpiau cymunedol.
Ymysg y gwelliannau mae:
- Sgriniau Gwybodaeth Newydd i Gwsmeriaid.
- Arwyddion newydd ac ailfrandio.
- Lloches feiciau newydd o flaen yr orsaf.
- Meinciau ychwanegol.
- Goleuadau newydd a chysgodfa aros ar Blatfform 4.
- Toiledau dynion a merched wedi cael eu hadnewyddu.
- Rhwystrau diwedd platfform wedi cael eu newid.
- Biniau ailgylchu newydd a man storio sbwriel.
- Y gallu i gydweithwyr mewn gorsafoedd annerch y cyhoedd wrth symud.
- Goleuadau LED newydd.
- Trolïau a baeau bagiau newydd ar blatfform 2/3.
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail: “Mae cwblhau’r platfform newydd hwn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i wella siwrneiau a gorsafoedd i’n teithwyr ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
“Drwy weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, mae ein peirianwyr a’n contractwyr wedi gweithio bob awr o’r dydd i ddarparu canolfan drafnidiaeth y gall dinas Abertawe fod yn falch ohoni.
“Fe hoffen ni ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd dros y misoedd diwethaf wrth i ni gyflawni’r gwelliannau hyn.”
Dywedodd Yasmin Browning, rheolwr prosiectau TrC, : “Mae’r gwaith yng ngorsaf Abertawe wedi cyfrannu’n helaeth at drawsnewid yr orsaf i gwsmeriaid. Mae’r gwelliannau ar hyd a lled yr orsaf yn golygu gwell mynediad at wybodaeth ac amgylchedd mwy cyfforddus wrth aros i adael.
“Nid yn unig mae Platfform 4 yn edrych yn wych, ond bydd yn caniatáu rhagor o ddewisiadau ar gyfer dod â threnau i mewn ac allan o’r orsaf, gan helpu i gyflawni gwelliannau capasiti allweddol. Mae’r prosiect hwn wedi dangos sut mae cydweithio’n agos â’n Partneriaid Network Rail yn gallu cyflawni ar gyfer cwsmeriaid.”
Dywedodd Samyutha Bala, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid GWR: “Rydyn ni’n falch iawn bod y gwaith o ymestyn Platfform 4 wedi’i gwblhau a’i fod bellach yn gallu delio â’n Trenau Intercity Express 10 cerbyd. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni yn Abertawe a bydd yn lleihau oedi ac yn sicrhau gwasanaeth dibynadwy i’n cwsmeriaid.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i’r cyfyngiadau symud lacio ac wrth i deithio busnes a hamdden gynyddu. Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda Network Rail Cymru a Gorllewin Lloegr a Trafnidiaeth Cymru ac maen nhw wedi gwneud gwaith gwych fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cwsmeriaid.”
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Rydw i wir yn croesawu’r buddsoddiad y mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru wedi’i wneud yng Ngorsaf Abertawe.
“Gyda lle ar gyfer trenau mwy a chyfleusterau wedi’u huwchraddio, mae’n hwb gwirioneddol i’r ddinas, sy’n derbyn rhaglen adfywio gwerth £1bn ar hyn o bryd.
“Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwych yn rhan hanfodol o unrhyw ddinas ffyniannus ac uchelgeisiol, a bydd y gwelliannau hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i Abertawe.”
Nodiadau i olygyddion
Agorwyd gorsaf drenau Abertawe am y tro cyntaf ar 19 Mehefin 1850.
Yn y gorffennol, dim ond rhan fach o Blatfform 4 y gellid ei defnyddio yn Abertawe. Fodd bynnag, mae’r platfform newydd yn 260m o hyd – yn hirach na dau gae pêl-droed – a bydd yn caniatáu i Drenau Intercity Express newydd GWR gyrraedd a gadael oddi yno. Mae’n rhan allweddol o foderneiddio’r orsaf.
Er mwyn gwneud lle i’r strwythur newydd, tynnodd y contractwyr Alun Griffiths Ltd 2,400 tunnell o wastraff o’r safle i’w ailgylchu. Cafodd y gwastraff ei wahanu ar y safle, gyda dur yn cael ei gludo i ganolfannau ailgylchu yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, a’r concrit yn mynd i ganolfan ailgylchu Alun Griffiths Ltd yn Llanelli.
Nodiadau i olygyddion
Agorwyd gorsaf drenau Abertawe am y tro cyntaf ar 19 Mehefin 1850.
Yn y gorffennol, dim ond rhan fach o Blatfform 4 y gellid ei defnyddio yn Abertawe. Fodd bynnag, mae’r platfform newydd yn 260m o hyd – yn hirach na dau gae pêl-droed – a bydd yn caniatáu i Drenau Intercity Express newydd GWR gyrraedd a gadael oddi yno. Mae’n rhan allweddol o foderneiddio’r orsaf.
Er mwyn gwneud lle i’r strwythur newydd, tynnodd y contractwyr Alun Griffiths Ltd 2,400 tunnell o wastraff o’r safle i’w ailgylchu. Cafodd y gwastraff ei wahanu ar y safle, gyda dur yn cael ei gludo i ganolfannau ailgylchu yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, a’r concrit yn mynd i ganolfan ailgylchu Alun Griffiths Ltd yn Llanelli.