24 Tach 2021
Mae'r genhedlaeth nesaf o yrwyr trenau wedi ymuno â chynllun prentisiaeth newydd Trafnidiaeth Cymru - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
TrC yw'r gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i gynnig cymhwyster NVQ lefel 3 achrededig mewn gweithrediadau gyrwyr trên fel rhan o brentisiaeth.
Y gobaith yw y bydd mwy na 100 o brentisiaid wedi arwyddo erbyn diwedd y flwyddyn a'i nod yw recriwtio tua 100 bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Adam Bagwell, Rheolwr Hyfforddiant Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Rwy’n falch iawn ac wrth fy modd ein bod bellach yn gallu cynnig cymhwyster a phrentisiaeth lefel 3 gydnabyddedig i yrwyr trenau am y tro cyntaf yng Nghymru.
“Rydyn ni wedi bod yn disgwyl yn hir am y datblygiad hwn ac mae’r gwaith caled gan ein tîm hyfforddi ar y cyd ag academi gyrwyr trenau’r Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd (RDG), Coleg y Cymoedd a’r Undeb Llafur cenedlaethol ar gyfer Gyrwyr Trên, ASLEF, bellach wedi dwyn ffrwyth.
“Mae rôl gyrrwr trên yn rôl broffesiynol, tra medrus ac mae ein gyrwyr yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith caled trwy hyfforddiant ar ffurf y cymhwyster hwn. Mae'n dangos ein bod wedi ymrwymo i ddarparu'r hyfforddiant gorau posibl i'n gyrwyr yng Nghymru a'r Gororau."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb am Drafnidiaeth, Lee Waters: “Nid gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn unig oedd y diben pan wnaethon ni greu Trafnidiaeth Cymru ond creu buddion eraill i’n cymunedau ar yr un pryd. Mae dod â phrentisiaid i swyddi â chyflog da yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n gwneud y ddau.”
Yr wyth gyrrwr cyntaf i ymuno â'r brentisiaeth yw Kevin Whitlock, Drew Bradley, Robyn Williams, Richard Lee Hext, Joel David Hier, Rhys William, Stephen Edward Jones a Michael Davies.
Dywedodd Matthew Tucker, Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Busnes Coleg y Cymoedd: “Mae Coleg y Cymoedd yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â TrC yn cefnogi datblygiad y brentisiaeth Gyrwyr Trên Lefel 3 cyntaf yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda TrC ers bron i 2 flynedd, yn cefnogi uwchsgilio a hyfforddi ar draws gwahanol adrannau. Y cymhwyster Gyrrwr Trên Lefel 3 yw'r cyntaf yng Nghymru ac mae'n creu cyfleoedd newydd ac yn sicrhau cysondeb ledled y DU.
“Bu buddsoddiad a datblygiad seilwaith enfawr mewn trafnidiaeth ledled Cymru; mae creu’r brentisiaeth hon yn sicrhau bod addysg a datblygu sgiliau yn rhan hanfodol o hynny.”
Mae TrC wedi buddsoddi'n helaeth yn ei gyfleusterau hyfforddi gan gynnwys efelychwyr trên a phlatfform newydd ac yn ddiweddar, mae ei holl yrwyr dan hyfforddiant un ai wedi dechrau ar neu wedi cwblhau eu cymhwyster NVQ lefel 3 mewn dysgu a datblygu.
Ychwanegodd Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol ASLEF, undeb gyrwyr trenau: “Rydyn ni ar ben ein digon bod y cymhwyster achrededig cyntaf erioed hwn mewn gyrru trên ar waith yng Nghymruj o'r diwedd.
“Mae'n gam gwych ymlaen ar gyfer hyfforddiant, ar gyfer gyrwyr trenau, ar gyfer y rheilffordd, ac ar gyfer Cymru.”