Skip to main content

Fijians in Wales for Rugby and Recruitment Event

19 Medi 2023

Gyda llygaid y byd ar gystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gaerdydd ddydd Iau hwn ar gyfer digwyddiad rygbi a recriwtio.

Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n adeiladu Metro De Cymru ac mae wedi trefnu digwyddiad i rai o'r busnesau sy'n rhan o'i gadwyn gyflenwi ddod ynghyd i hyrwyddo eu swyddi gwag i Gymuned y Lluoedd Arfog.  

Anogir unrhyw gyn-filwyr, y rheini sydd ar fin gadael y lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, gwirfoddolwyr gyda'r cadetiaid neu bartneriaid, i fynd i'r digwyddiad os ydynt yn chwilio am waith neu i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael.  

Cynhelir y digwyddiad ym Mharc yr Arfau Caerdydd Ddydd Iau 21 Medi 2023 am 13.00

Gyda bylchau sgiliau ar draws sawl sector, bydd 40 o fusnesau yn bresennol yn y digwyddiad recriwtio.  Ar ôl y digwyddiad, bydd gêm rygbi rhwng Tîm Rygbi Byddin Fiji a Thîm Rygbi Gwasanaethau Brys Cymru.  

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Yn TrC, rhoddwyd Gwobr Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog i ni yn ddiweddar ac rydym yn cynnal y digwyddiad hwn fel y gall cyn-filwyr yn y rhanbarth hwn chwilio am swyddi neu ddod i wybod pa rolau sydd ar gael. 

“Mae prosiectau seilwaith ar raddfa fawr yn digwydd ledled y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac mae llawer o gyfleoedd a bylchau sgiliau yn ein cadwyn gyflenwi.  Rydym yn annog pawb sy'n rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog i ddod i'r digwyddiad hwn gan y gallai fod gennych y sgiliau rydyn ni'n chwilio amdanynt. 

“Fel rhan o'r digwyddiad, rydym hefyd yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gymru gyda gêm rygbi yn ddiweddarach yn y prynhawn.”