23 Hyd 2024
Datganiad ar y cyd: Trafnidiaeth Cymru a Network Rail.
Bydd lein y Cambrian rhwng Machynlleth a’r Amwythig yn parhau ar gau tan o leiaf ddiwedd dydd Gwener 25 Hydref yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên nos Lun.
Mae’r digwyddiad yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) a bydd yn symud i ymgyrch adfer i gael gwared ar y trenau yr effeithir arnynt dros y dyddiau nesaf.
Hoffai TrC a Network Rail ddiolch o galon i bawb yn y gymuned leol am y lefel aruthrol o gefnogaeth y maent wedi’i darparu yn ystod y digwyddiad anodd hwn.
Bydd gwasanaeth bws arall yn parhau yn ei le yn galw ym mhob gorsaf ar y llwybr a dylai cwsmeriaid wirio cyn iddynt deithio a chaniatáu i deithiau gymryd mwy o amser nag arfer.
Bydd gwasanaethau rhwng Machynlleth a Phwllheli/Aberystwyth a rhwng Amwythig a Birmingham International yn parhau i redeg fel y cynlluniwyd.
Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau YMA