24 Maw 2022
Ddoe (23 Mawrth) ymuodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru â disgyblion o Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, i lansio Siarter Plant a Phobl Ifanc Trafnidiaeth Cymru.
Nod y siarter yw rhoi barn plant wrth galon gwaith TrC i drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth ledled Cymru.
Bydd yn canolbwyntio ar beth sydd, yn draddodiadol, yn rhwystro pobl ifanc rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys cost, diogelwch a hygyrchedd.
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cyflwyno rhai buddiannau, gan gynnwys teithio am ddim i rai dan 11 oed a thocynnau oriau allfrig am ddim i rai dan 16 oed, sydd yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn.
Dywedodd Sally Holland: “Mae’r siarter hon yn dangos yn amlwg ymrwymiad TrC i wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) heddiw ac yn y dyfodol. Gwych o beth oedd clywed yn uniongyrchol gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Ffynnon Taf sy’n wirioneddol ysbrydoledig a brwdfrydig dros drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yma yng Nghymru.”
Bu disgyblion o Ffynnon Taf hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n rhan o adnodd addysg Y Daith Drên Odidog ar ei newydd wedd gan TrC ac archwilio modelau’r trenau newydd fydd yn gwasanaethu ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Mae 'ysbrydoliaeth' yn un o addewidion y siarter, felly yn y digwyddiad ddoe hefyd ail-lansiwyd adnodd addysg Y Daith Drên Odidog. Mae Y Daith Drên Odidog yn ysbrydoli pobl ifanc i ddewis opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy fel eu hoff ffordd o deithio.
Dywedodd Megan Roseblade o TrC: “Mae Y Daith Drên Odidog yn adnodd dysgu gwych i blant, pobl ifanc, rhieni, athrawon a gwarcheidwaid sy’n awyddus i ysbrydoli a dysgu mwy am drafnidiaeth gynaliadwy.
“Mae 23 o weithgareddau ar draws chwe chynllun gwers, sy’n ei gwneud hi’n hawdd addysgu pobl ifanc ynghylch eu rôl mewn dyfodol gwyrddach.”
Mae’r Athro Sally Holland yn un o nifer o ffigurau blaenllaw sy’n aelodau o banel cynghori annibynnol TrC sy'n helpu i arwain a chraffu ar waith y sefydliad.
I ddarllen mwy am Siarter Pobl Ifanc a'r Daith Drên Odidog ewch i Plant ac ysgolion | TrC.