Skip to main content

Michelin-starred chef James Sommerin partners with Transport for Wales to launch exclusive First Class menu

26 Maw 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cydweithio â'r cogydd Michelin enwog, James Sommerin, i ddod â lefel newydd o foethusrwydd i'w wasanaeth Dosbarth Cyntaf.

Bydd y fwydlen unigryw, gyfyngedig ar gael am wyth wythnos o 7 Ebrill ymlaen, ar wasanaethau Dosbarth Cyntaf dethol rhwng Caerdydd a Chaergybi, a Chaerdydd a Manceinion.

Wedi'i chynllunio gan James Sommerin a'i gweini’n arbenigol gan gogyddion TrC, mae'r fwydlen newydd yn dangos angerdd Trafnidiaeth Cymru a James am gynhwysion lleol o'r radd flaenaf a'i ddull arloesol o greu prydau Cymreig modern.

Enillodd James Sommerin, un o gogyddion enwocaf Cymru, ei seren Michelin gyntaf yn nhafarn The Crown Abergwenffrwd yn 2007. Ers hynny, mae ei fwyty 'Home', ym Mhenarth wedi ennill ei blwyf fel cyrchfan anhepgor i bawb sy'n dwlu ar fwyd amheuthun.

Mae ei goginio crefftus, sydd wedi ennill clod a bri gan feirniaid bwyd a phersonoliaethau teledu fel ei gilydd, bellach yn mynd ar y cledrau, gan gynnig profiad bwyta penigamp i deithwyr.

TfW x James Sommerin (1)-2

Dywedodd James Sommerin:

"Dwi'n angerddol am gyflwyno bwyd gwych i leoedd annisgwyl, ac yn falch iawn o gydweithio â Trafnidiaeth Cymru ar y fwydlen Dosbarth Cyntaf hon. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i greu prydau sy'n tynnu sylw at gynhwysion gorau'r genedl, gan sicrhau eu bod nhw’n ffres, yn flasus, ac yn berffaith addas i fwyta ar drên.

"Blas yw pob dim – creu danteithion mae pobl wir yn eu mwynhau gan ddathlu Cymru a phopeth sydd ganddi i'w gynnig. Mae’n gyfle gwych i godi'r gwasanaeth i lefel arall, a dwi'n edrych ymlaen at dynnu dŵr o ddannedd y teithwyr."

Gall teithwyr edrych ymlaen at uchafbwyntiau fel: cig eidion Cymru wedi'i frwysio'n araf gyda shibwns wedi'u carameleiddio a briwsion caws cheddar Blaenafon, cwstard wy gwymon gyda salad cranc ffres ac afal, a phwdin siocled tywyll cynnes gyda hufen Merlyn ac oren.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio cegin o'r radd flaenaf yng Nghasnewydd yn ddiweddar hefyd, fel rhan o ymrwymiad y cwmni i gynhyrchu prydau cynaliadwy o'r radd flaenaf i deithwyr. Mae'r

cydweithio hwn hefyd yn cynnwys pwyslais ar ganfod cynhwysion gan gyflenwyr Cymreig fel Castell Howell i leihau ôl-troed carbon.

Bydd Mark Roberts, Prif Gogydd TrC, a gydweithiodd yn agos â James ar y fwydlen, yn goruchwylio'r broses o baratoi’r prydau, gan sicrhau bod tîm y trên yn cynnal y safonau uchaf o ran ansawdd a gwasanaeth pob cam o'r daith.

Ychwanegodd Prif Gogydd Trafnidiaeth Cymru, Mark Roberts:

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyflwyno seigiau seren Michelin i'n teithwyr Dosbarth Cyntaf. Mae'r fwydlen hon yn nodi'r bennod nesaf yn ein hymrwymiad i gyflwyno profiadau teithio hygyrch, o ansawdd uchel. A thrwy lansio ein cegin newydd yng Nghasnewydd, rydyn ni mewn sefyllfa well nag erioed i weini prydau premiwm, o ffynonellau lleol. Mae prydau premiwm ar TrC wedi bod yn drysor cudd am yn rhy hir o lawer, felly rydyn ni'n edrych ymlaen at weld mwy o deithwyr yn mwynhau’r wledd.”

Er mwyn sicrhau bod ciniawa Dosbarth Cyntaf yn fwy hygyrch, mae TrC hefyd wedi meithrin partneriaeth â Seatfrog, sy'n caniatáu i deithwyr wneud cais i uwchraddio i gerbyd Dosbarth Cyntaf neu brynu tocyn Dosbarth Cyntaf yn hawdd ar wasanaethau penodol, am ffracsiwn o'r pris gwreiddiol.

Dim ond am wyth wythnos y bydd y fwydlen gyfyngedig hon ar gael, gan gynnig blas ar fwyd seren Michelin i deithwyr Dosbarth Cyntaf ledled Cymru a thu hwnt.

Gellir mwynhau dau gwrs am £24.95 neu dri chwrs am £27.95. Gallwch ychwanegu potel 75cl o win y tŷ, gan ddod â'r cyfanswm i £37 am ddau gwrs neu £40 am dri chwrs.

Gallwch ddysgu mwy yma am wasanaeth Dosbarth Cyntaf Trafnidiaeth Cymru.

TfW x James Sommerin (2)-2

Nodiadau i olygyddion


TrC x James Sommerin – Bwydlen Lawn

Cwrs cyntaf

· Cawl pannas rhost, sbeis Vadouvan, hufen tryffl, olew cennin syfi

· Terrine coesgyn ham, cennin a mwstard. Compôte teim a winws wedi’u caramaleiddio

· Cwstard wy gwymon. Salad cranc, afal a llysiau'r gwewyr ffres.

Prif gwrs

· Cig eidion Cymru wedi'i frwysio'n araf. Shibwns wedi'u carameleiddio, saim cig eidion, saets a briwsion caws cheddar Blaenafon

· Penfras wedi'i botsio mewn rhosmari. Mousse tatws, persli, caprau, croutons

· Tarten asbaragws Dyffryn Gwy, ffa, sbigoglys. Wy wedi'i botsio'n feddal, vinaigrette cnau cyll

Pwdin

· Ffondant siocled tywyll cynnes, hufen Merlyn ac oren

· Tarten riwbob Dyffryn Gwy a phuprennau pinc gyda hufen tolch.

· Detholiad o gawsiau Cymreig

 

Bellach, mae gan TrC saith trên sy'n darparu'r gwasanaeth arlwyo o fri, ar ffurf pum cerbyd gydag un cerbyd Dosbarth Cyntaf.

Byddant yn rhedeg ar yr adegau canlynol o ddydd Llun i ddydd Gwener (yn amodol ar newid):

· 05:27 Caergybi-Caerdydd Canolog

· 17:14 Caerdydd Canolog-Caergybi

 

· 05:43 Abertawe-Manceinion Piccadilly

· 08:53 Caerdydd Canolog-Manceinion Piccadilly

· 10:53 Caerdydd Canolog-Manceinion Piccadilly

· 12:53 Caerdydd Canolog-Manceinion Piccadilly

· 14:50 Caerdydd Canolog-Manceinion Piccadilly

· 16:53 Caerdydd Canolog-Manceinion Piccadilly

 

· 06:27 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

· 08:30 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

· 10:30 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

· 12:30 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

· 14:30 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

· 16:30 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

· 18:30 Manceinion Piccadilly-Caerdydd Canolog

 

Gall teithwyr gynllunio eu taith Dosbarth Cyntaf ar Ap TrC neu ar-lein yma: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/mathau-o-docynnau/dosbarth-cyntaf 

Sut mae Seatfrog yn gweithio?

1. Rhaid lawrlwytho ap Seatfrog yn gyntaf

Ar ôl cofrestru'ch cyfrif Seatfrog, teipiwch eich cod cyfeirnod archebu pan ofynnir i chi, neu defnyddiwch chwiliadur trên Seatfrog, a bydd yr ap yn dangos pa uwchraddiadau sydd ar gael ar gyfer eich taith.

2. Rhoi cynnig neu uwchraddio ar unwaith

I gymryd rhan mewn arwerthiant: dewiswch nifer y seddi sydd eu hangen arnoch a rhowch eich cynnig i gymryd rhan mewn arwerthiant. Does dim angen talu i gymryd rhan mewn arwerthiant - dim ond os byddwch chi'n ennill y byddwch yn talu.

I uwchraddio ar unwaith: os ydych chi eisiau uwchraddiad cyflym heb y risg o golli'ch sedd mewn arwerthiant, defnyddiwch ap Seatfrog gyda'r opsiwn 'instant upgrade'.

3. Uwchraddio eich taith

Bydd Seatfrog yn anfon eich cod bar uwchraddio yn syth i'ch ffôn. Rhaid dangos cod bar eich tocyn gwreiddiol a'ch cod bar uwchraddio Dosbarth Cyntaf ar gyfer y daith.

Felly, boed fusnes neu hamdden, defnyddiwch Seatfrog i uwchraddio'ch tocyn yn rhatach.