Skip to main content

UK first TfW train driver apprenticeship helps win award

24 Ebr 2024

Mae rhaglen brentisiaeth newydd i yrwyr trenau - y cyntaf o'i bath yn y DU – wedi helpu TrC i ennill gwobr fawreddog.

Ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 189 o brentisiaid ac wedi recriwtio dros 300 ers cael ei sefydlu dros bum mlynedd yn ôl - cafodd y cyflogwr nid-er-elw ei goroni’n Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn ddiweddar yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.

Trwy groesawu dysgu yn seiliedig ar waith ar draws 12 maes yn y busnes, mae TrC wedi recriwtio cannoedd o brentisiaid er mwyn helpu i wella perfformiad y busnes, cefnogi cynaliadwyedd hirdymor a darparu cyfleoedd cyflogaeth i'r cymunedau lleol y mae'n eu gwasanaethu.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, cyflwynodd TrC hefyd ddiploma gyrru trenau lefel tri cyntaf y DU, fel rhan o'r rhaglen brentisiaeth i yrwyr trenau, gan annog recriwtiaid newydd o gefndiroedd amrywiol i ymuno â'r diwydiant rheilffyrdd.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:

"Rydym yn hynod falch o'n timau sydd wedi darparu ein rhaglen brentisiaethau ac mae'r wobr hon yn rhoi iddynt y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu ac, wrth gwrs, yn tynnu sylw at waith ein prentisiaid gwych.

"Mae TrC yn gwmni nid-er-elw ac rydym yn gweithredu’n gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) ac mae'r wobr hon yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i bobl yng Nghymru o gefndiroedd amrywiol.

"Rydyn ni ar lwybr i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a thrwy wneud hyn, rydyn ni am gynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl yn yr ardaloedd rydyn ni'n eu gwasanaethu.

"Rydym yn parhau i esblygu yn y maes hwn ac yn targedu 150 o brentisiaid y flwyddyn dros y tair neu bedair blynedd nesaf.

Nodiadau i olygyddion


Yn y llun (Cefn: O'r chwith i'r dde) - Eirian Thomas, Adam Bagwell, Bev Hannible, James Price a James Cooper

(Blaen: O'r chwith i'r dde) - Tina Rees, Jess Howells-Mullen, Marie Daley and Jamilla Fletcher