14 Tach 2025
Heddiw, mae Ei Fawrhydi, y Brenin Charles, wedi agor Depo Metro De Cymru yn Ffynnon Taf yn swyddogol.
Yn gartref i Metro De Cymru, mae'r depo gwerth £100 miliwn yn darparu dros 400 o swyddi a dyma lle bydd fflyd o 36 o drenau tram newydd sbon yn cael eu cynnal a’u cadw.
Bydd agor y depo a chyflwyno'r trenau tram cyntaf y flwyddyn nesaf yn barhad o’r gwaith o drawsnewid trafnidiaeth ledled De Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni Metro De Cymru, un o brosiectau seilwaith mwyaf Cymru. Mae hyn yn cynnwys trydaneiddio dros 170km o gledrau rheilffordd, gan ganiatáu cyflwyno trenau trydan ar reilffyrdd Cymoedd De Cymru am y tro cyntaf erioed y llynedd.
Mae'r safle 5 hectar, sy'n cynnwys depo trenau newydd sbon, safle cadw ar gyfer y 36 trên tram a'r Ganolfan Reoli Integredig bellach wedi'i gwblhau'n llawn ac ar agor.
Mae’r prosiect, a alwyd yn ddiweddar yn 'Tiwb Cymru', yn cysylltu rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Ewrop â'i gilydd, â Chaerdydd a thu hwnt, a'i nod yw gwella mynediad at ganolfannau cyflogaeth, hamdden ac iechyd, gan hybu potensial economaidd Cymoedd De Cymru.
Cyfarfu’r Brenin Charles â staff yn y depo ac aeth ar daith yng ngherbyd y gyrrwr ar un o’r trenau tram newydd, gyda phlant o dair ysgol leol a chynrychiolwyr o'r gymuned wedi’u gwahodd i ymuno â’r dathliadau.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae gwella trafnidiaeth ledled Cymru yn un o fy mhrif flaenoriaethau – buddsoddi mewn trafnidiaeth o ansawdd uchel sy’n fwy dibynadwy, yn fwy cyfleus ac yn fwy pleserus i’w defnyddio.
“Rydym eisoes yn gweld manteision sylweddol ein buddsoddiad ym Metro De Cymru.
“Mae gwasanaethau gwell, trenau newydd sbon a thocynnau Talu Wrth Fynd wedi trawsnewid teithio i deithwyr.
“Mae agor Depo Ffynnon Taf yn nodi carreg filltir bwysig yn ein buddsoddiad o £1bn i uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd.
“Mae’n rhan o’r seilwaith hanfodol y tu ôl i’r llenni, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yn eu bywydau bob dydd, boed hynny wrth ei gwneud hi’n haws mynd i’r gwaith neu hyfforddiant, neu archwilio’r wlad ar ein rhwydwaith rheilffyrdd gwych.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Pleser o’r mwyaf fu croesawu Ei Fawrhydi, y Brenin Charles i Ffynnon Taf heddiw er mwyn iddo gael ymweld â’n Depo Metro yn Ne Cymru.
“Gyda rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, trenau newydd sbon a depo o’r radd flaenaf, mae Metro De Cymru yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn y rhanbarth ac, yn bwysicaf oll, yn cysylltu pobl a chymunedau â chyfleoedd.
“Rydym wrthi'n cwblhau'r camau olaf o drydaneiddio 170 km o gledrau ac eisoes wedi cyflwyno ein trenau trydan cyntaf ar y rhwydwaith, ynghyd â thocynnau talu wrth fynd i’n cwsmeriaid.
“Rydym yn gyffrous i ddechrau cyflwyno’r trenau tram newydd sbon y flwyddyn nesaf, wrth i ni barhau i drawsnewid teithio a denu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl tîm a’n partneriaid adeiladu am eu gwaith caled i ddarparu’r depo newydd.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r gymuned leol yn Ffynnon Taf am eu cefnogaeth a’u hamynedd drwy gydol y prosiect adeiladu mawr ac am ein helpu i’w enwi’n lleol yn ‘Depo’r Goeden Cnau Ffrengig’.
Ychwanegodd Vernon Everitt, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru: "Mae Metro De Cymru yn trawsnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth ac mae agor y depo hwn yn dynodi dechrau pennod newydd i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
"Mae trafnidiaeth yn hanfodol i alluogi twf economaidd cynaliadwy, cynhyrchiant uwch a mynediad at gartrefi, swyddi, addysg, gwell iechyd a chyfleoedd i bawb.
"Wrth ei wraidd, mae trafnidiaeth yn ymwneud â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o bob math a bydd Metro De Cymru yn gwella bywydau'r rhai sy'n byw yn y cymoedd ac yn helpu i ddarparu dyfodol gwell i genedlaethau i ddod.
"Felly, mae'r cyfleuster hwn gwerth can miliwn o bunnoedd yr ydym yn ei agor heddiw yn llawer mwy na brics, morter a thraciau dur. Mae'n gonglfaen ar gyfer bywydau gwell yn Ne Cymru ac yn gatalydd ar gyfer adfywio.
"Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni newid a gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyfan ac yn y gororau a'n gweledigaeth yw creu un rhwydwaith integredig, gan ddod â llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol ynghyd."
Nodiadau i olygyddion
Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad nid-er-elw sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru ac mae'n trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a'r Gororau.
Depo Metro De Cymru – Ffynnon Taf
Dewiswyd Ffynnon Taf, sydd wedi'i leoli yng nghanol Llinellau Craidd y Cymoedd, sy'n eiddo i TrC, fel y lleoliad delfrydol.
Dechreuodd y gwaith dymchwel ar safle 5 hectar Forgemasters ym mis Gorffennaf 2019, a dechreuodd y gwaith o adeiladu'r depo newydd a chanolfan reoli'r Metro, a adeiladwyd ar ei sylfeini, ym mis Ionawr 2020.
Dilynwyd y gwaith dymchwel gan waith adfer i gael gwared ar bridd halogedig, a baratôdd y ffordd ar gyfer sylfeini'r depo, a gwblhawyd yng ngwanwyn 2022.
O 2022 ymlaen, cafodd pont Ffordd Bleddyn ei chau, ei dymchwel a'i hailadeiladu i greu mynedfa reilffordd newydd yn ne'r depo. Mae tro yn y rheilffordd ysgafn, sydd bron yn 180 gradd, bellach yn caniatáu i'r trenau tram fynd i mewn ac allan o'r safle, gan gysylltu â'r llinell reilffordd wreiddiol.
Ochr yn ochr â gwaith i adeiladu'r depo newydd, mae gwelliannau sylweddol hefyd wedi'u cyflawni yng ngorsaf Ffynnon Taf. Ers 2021, mae dau blatfform yr orsaf wedi'u hehangu i ddarparu ar gyfer trenau hirach newydd TrC a gwneud gwelliannau er mwyn darparu mynediad gwastad o’r trên i’r platfform.
Yn 2024, tynnwyd y bont droed wreiddiol â grisiau yn ofalus, a oedd wedi bod yn ei lle ers 1879, a'i rhoi i reilffordd dreftadaeth. Gosodwyd pont droed Mynediad i Bawb newydd sbon yn ei lle, gan ddarparu mynediad heb risiau i'r ddau blatfform.
Cwblhawyd y Ganolfan Reoli Integredig (ICC), sydd wedi'i lleoli ym mhen gogleddol y safle, yn 2023. Mae'n gyfrifol am reoli signalau ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd, gyda'r cyfrifoldeb wedi'i drosglwyddo o'r ganolfan reoli Network Rail yng Nghaerdydd. Mae'n gartref i dros 50 o staff sy'n gweithio ddydd a nos i gadw'r rhwydwaith i symud.
Metro De Cymru
Nod prosiect Metro De Cymru yw trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio ar draws Cymoedd De Cymru trwy deithiau amlach a chyflymach, a wneir ar drenau a threnau tram newydd.
Mae'r prosiect yn cynnwys trydaneiddio 170k o gledrau rheilffordd presennol ynghyd ag uwchraddio'r rhan fwyaf o'r gorsafoedd.
Dechreuodd y gwaith uwchraddio yn 2020, ac ers hynny mae gwaith mawr wedi'i gyflawni ar draws rheilffyrdd Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Coryton, Rhymni, Llinell y Ddinas a Bae Caerdydd.
Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr rheilffyrdd trwm cyntaf y tu allan i Lundain i lansio system docynnau talu wrth fynd. Mae'r dechnoleg tapio i mewn a thapio allan eisoes
wedi galluogi dros 1.8 miliwn o deithiau ar draws 95 o orsafoedd ledled De Cymru a chaiff ei hehangu i Ogledd Cymru y flwyddyn nesaf.
Y camau nesaf - Metro De Cymru
Gyda'r depo bellach ar agor ac yn gwbl weithredol, mae'r sylw yn symud at gyflwyno'r trên tram cyntaf i wasanaeth o wanwyn 2026, ochr yn ochr â chwblhau gwaith uwchraddio seilwaith ar draws llinellau Rhymni a Bae Caerdydd.
Bydd teithiau profi’r trenau tram yn parhau i ddod yn amlach yn y misoedd nesaf wrth i'r grŵp cyntaf o griwiau trên ddechrau eu hyfforddiant.