Skip to main content

Week of action to reinforce face covering regulations

13 Awst 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cydweithio mewn wythnos o weithredu ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru i atgoffa cwsmeriaid bod yn rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus o hyd.

Mae’n dilyn symudiad Llywodraeth Cymru i lefel rhybudd sero o ddydd Sadwrn 7 Awst ymlaen.

O ganlyniad i’r newid i lefel rhybudd sero, mae TrC wedi diweddaru ei ganllawiau i deithwyr ac ni fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb ar blatfformau gorsafoedd sydd heb orchudd mwyach.

Ond mae gorchuddion wyneb yn dal yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai fod pobl wedi’u heithrio, ac mewn ardaloedd fel adeiladau gorsafoedd, caffis, toiledau ac ystafelloedd aros.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Wrth i’n bywydau ddechrau mynd yn ôl ar y trywydd iawn, rhaid i ni gofio nad yw Covid wedi diflannu. Mae’r dystiolaeth wyddonol yn glir, mae gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau caeedig, fel trafnidiaeth gyhoeddus, yn lleihau lledaeniad y feirws.

“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi sicrhau bod ei wasanaethau ar waith drwy gydol y pandemig ac mae’n parhau i gymryd camau i gadw teithwyr yn ddiogel. Drwy barhau i wisgo gorchuddion wyneb, gall pob un ohonom chwarae ein rhan i gadw Cymru’n ddiogel.”

Ers dechrau 2021, mae staff TrC, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a staff asiantaethau diogelwch partner wedi herio dros 50,000 o bobl ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau am beidio â gwisgo gorchuddion wyneb ac wedi gwrthod dros 2,000 o bobl rhag teithio.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Wrth i’r cyfyngiadau lacio, rydym ni’n awyddus i roi sicrwydd i’n cwsmeriaid bod eu diogelwch yn dal yn flaenoriaeth i ni ac oni bai eu bod wedi’u heithrio, mae’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus o hyd.

“Yn anffodus, rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n peidio â gwisgo gorchuddion wyneb. Rydym ni’n mynd i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddal sylw pobl ac atgyfnerthu’r neges bod gwisgo gorchudd wyneb yn helpu i’ch diogelu chi a’ch cyd-deithwyr, rhai ohonynt, o bosib, yn poeni am ddychwelyd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

“Bydd staff TrC a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn rhyngweithio â theithwyr, a bydd gennym nifer o negeseuon awtomatig mewn gorsafoedd a gwasanaethau ar y trenau. Rydym ni hefyd yn gwella ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a phan fydd pobl yn prynu tocynnau drwy ein gwefan ac ap.

“Mae gennym hefyd bob cerbyd sydd ar gael i ddarparu cymaint o gapasiti â phosibl ar y rhwydwaith.”

Yn ystod yr wythnos o weithredu o ddydd Mercher 11 Awst i ddydd Mercher 18 Awst, bydd staff TrC a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn targedu’r prif ardaloedd lle mae’r lefelau cydymffurfio â rheolau gorchuddion wyneb wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau i Ynys y Barri, arfordiroedd Gogledd a Gorllewin Cymru ac ar reilffyrdd i Gwm Rhymni, Maesteg a Threherbert.

Dywedodd Prif Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Jon Cooze: “Fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, bydd ein swyddogion yn parhau â’r dull o ymgysylltu, esbonio, annog ac, fel dewis olaf, gorfodi unrhyw ofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

“Gan fod ein hawdurdodaeth yn cynnwys tair gwlad, mae ein swyddogion yn plismona cyfreithiau gwahanol bob dydd, gan gynnwys drwy gydol y pandemig, ac maent wedi arfer delio ag unrhyw heriau a ddaw yn sgil hyn.”