07 Meh 2022
Bydd trenau’n dechrau cyrraedd iard gadw newydd Trafnidiaeth Cymru yn y Barri o ddydd Mercher 8 Mehefin ymlaen.
Yn gynharach eleni, prynodd TrC y safle depo helaeth a’r seilwaith rheilffyrdd cyfagos gan Gyngor Bro Morgannwg gyda’r bwriad o sefydlu’r safle fel ased strategol pwysig. Gyda’r cyntaf o drenau newydd sbon TrC yn cyrraedd Cymru, mae iard y Barri yn darparu capasiti ychwanegol hanfodol ar gyfer cadw trenau.
I ddechrau, bydd TrC yn defnyddio safle’r Barri i gynnal rhan o’r fflyd bresennol o drenau sy’n cael eu defnyddio ar wasanaethau Lein Bro Morgannwg, ond yn y dyfodol, bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein holl fflyd sy’n rhan o Fetro De Cymru.
Mae’r caffaeliad hefyd yn cynnwys adeilad gorsaf Ynys y Barri, y tir o amgylch yr orsaf a Rheilffordd Twristiaeth y Barri, a fydd yn parhau i gael ei weithredu o Ynys y Barri gan Cambrian Transport Ltd.
Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth TrC:
“Mae prynu’r depo, yr adeiladau a’r tir cyfagos yn rhoi cyfle unigryw i ni ddatblygu rôl y Barri fel canolfan strategol ym Metro De Cymru, yn ogystal â’n galluogi ni i weithredu rheilffordd fwy cydnerth.
“Yn hanesyddol, mae’r rheilffordd wedi chwarae rhan hollbwysig yn nhref y Barri, o ddatblygu’r dociau i iard sgrap enwog y brodyr Woodham lle cafodd 213 o locomotifau stêm eu hachub, gan roi hwb i’r gwaith o warchod rheilffyrdd ar draws Prydain. Rydyn ni’n falch iawn o barhau â’r traddodiad hwnnw gyda’n buddsoddiad yn safle’r iard gadw.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r Cyngor yn falch o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y prosiect hwn. Bydd y prosiect yn trawsnewid Depo Rheilffordd y Barri a’r tir cyfagos i fod yn gyfleuster pwysig i rwydwaith rheilffyrdd yr ardal hon.
“Bydd yn rhan allweddol o gynlluniau i foderneiddio gwasanaethau rheilffyrdd yn Ne Cymru ac yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd gan fod y trenau’n ecogyfeillgar.
“Mae cefnogi mentrau gwyrdd yn bwysig i’r Cyngor ac yn cyd-fynd â’n hymrwymiad Prosiect Sero, sy’n ceisio gwneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030.”