Skip to main content

Railway upgrades this August to deliver a more reliable and flood-resilient railway for North Wales and the Borders

13 Awst 2026

Mae teithwyr yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw wrth i Network Rail baratoi gwaith peirianneg hanfodol i wella dibynadwyedd a gwytnwch y rheilffordd yng Ngogledd Cymru a'r Gororau.

Bydd y gwaith rhwng Dydd Sul 16 Awst a Dydd Sul 30 Awst, gyda'r rheilffordd yn ailagor Ddydd Llun 31 Awst.

Ffocws allweddol y gwaith yw mynd i'r afael â dau leoliad sydd wedi cael eu heffeithio dro ar ôl tro gan lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Ger Gobowen, bydd peirianwyr yn disodli siffon sy'n heneiddio ac yn gosod y sgrin sbwriel awtomataidd; y cyntaf ar lwybr Cymru a'r Gororau. Mae’r system newydd wedi’u bweru gan ddŵr ac ynni solar ac yn tynnu canghennau, chwyn a sbwriel yn awtomatig cyn y gallant rwystro'r system ddraenio, gan ddarparu rheilffordd fwy dibynadwy i deithwyr.

Mae’r gwaith ychwanegol yn cynnwys:

  • Coed Babis [Babbinswood] : Adnewyddu mwy na chilomedr o bibellau draenio er mwyn gwella gwytnwch yr ardal i effeithiau tywydd eithafol.
  • Pont Droi Penarlâg: Atgyweiriadau strwythurol, ailosod rhannau o'r trac, a chwblhau atgyweiriadau gwaith brics er mwyn gwella gwytnwch rhag gwlypter a sicrhau bod eu bod yn ddibynadwy i’r tymor hir.
  • Gwelliannau i'r llwybr: Adnewyddu traciau, uwchraddio croesfannau, diriannu traciau a gwaith signalau rhwng Cyffordd Cors Dyfrdwy, Shotwick, Weston Rhyn, Rhiwabon a Burton.

Mae Network Rail yn lleihau'r angen am amhariadau i’r amserlen yn y dyfodol trwy gyflawni nifer o welliannau parhaol ar yr un pryd.

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru a'r Gororau: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol i reilffyrdd gogledd Cymru a'r gororau a fydd yn darparu manteision hirdymor i deithwyr a chwsmeriaid cludo nwyddau.

"Mae llawer o'r gwaith yn canolbwyntio ar wella draenio a diweddaru seilwaith sy'n heneiddio mewn lleoliadau sydd wedi profi llifogydd dro ar ôl tro. Bydd yr uwchraddiadau hyn yn gwneud y rheilffordd yn fwy gwydn i dywydd eithafol, gan helpu i leihau oedi a gwella dibynadwyedd am flynyddoedd i ddod.

"Rydym hefyd wedi cynllunio ystod eang o welliannau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r amser sydd ar gael a lleihau'r angen am amhariadau yn y dyfodol.

"Mae'r gwaith wedi'i drefnu i ddechrau wedi’r Tarian Gymunedol 2026 yng Nghaerdydd, gan ganiatáu i gefnogwyr sy'n teithio i'r gêm ac adref cyn i'r rheilffordd gau. Hoffem ddiolch i deithwyr am eu hamynedd ac annog pawb sy'n teithio yn ystod y cyfnod cau i gynllunio ymlaen llaw a gwirio cyn iddynt deithio."

Gwybodaeth deithio

Mae gwaith peirianneg yn golygu y bydd yr holl linellau rhwng Bidston a Wrecsam Cyffredinol ar gau o Ddydd Sul 16 Awst tan Ddydd Sul 30 Awst, gyda rhai o’r llwybrau rhwng Wrecsam Cyffredinol a'r Amwythig hefyd ar gau yn ystod y cyfnod hwn.

Dylai teithwyr ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau a gwirio cyn teithio.

Bidston – Wrecsam Cyffredinol/Canolog | Dydd Sul 16 – Dydd Sul 30 Awst

  • Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Bidston a Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Canolog tua bob 45 munud o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, a un bob 2 awr ar Ddydd Sul.
  • Bydd bysiau newydd hefyd yn gwasanaethu gogledd Penbedw ar gyfer cysylltiadau Birkenhead North â gwasanaethau Merseyrail i Lerpwl.

Wrecsam Cyffredinol – Amwythig | Dydd Llun 17 – Dydd Sul 30 Awst

  • Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Amwythig a Wrecsam Cyffredinol, tua bob awr o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, a phob dwy awr ar Ddydd Sul. Bydd rhai o’r gwasanaethau yn teithio i Gaer.
  • Bydd trenau rhwng gogledd Cymru, Amwythig, Birmingham International a Chaerdydd Canolog yn cael eu dargyfeirio trwy Crewe, gydag amserlenni diwygiedig ac amseroedd teithio hirach.

Bydd rhai croesfannau ar gyfer llwybrau troed cyhoeddus hefyd ar gau gyda dargyfeiriadau dros dro. Ar groesfan reilffordd Gobowen, gall rhwystrau fod ar waith am hirach nag arfer tra bod trenau peirianneg yn cael mynediad i'r safleoedd gwaith.

Anogir teithwyr i wirio Ymholiadau Rheilffordd Genedlaethol neu gyda'u gweithredwr trên cyn cychwyn eu taith.

Nodiadau i olygyddion


  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu trên yn ôl i Wrecsam ar gyfer cefnogwyr sy'n teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd i’r gêm ar Nos Lun 17eg Awst, drwy'r Amwythig (yn cyrraedd 00:42), Crewe a Chaer sy’n gadael Caerdydd Canolog 22:36.
  • Darperir gwasanaeth bws yn yr Amwythig (yn gadael 00:55) ar gyfer gorsafoedd i Riwabon, Y Waun a Gobowen.
  • Mae Network Rail yn parhau i fabwysiadu technolegau newydd sy'n darparu rheilffordd fwy dibynadwy i deithwyr. Bydd peirianwyr yn disodli siffon (strwythur arbenigol sy'n cario dŵr o dan y rheilffordd) ger Gobowen sy'n heneiddio, ochr-yn-ochr ag adnewyddu pibellau draenio, a gosod y sgrin sbwriel awtomataidd gyntaf ar lwybr Cymru a'r Gororau. Bydd y system arloesol sydd wedi'i bweru gan ddŵr a thrydan solar yn tynnu canghennau, chwyn a sbwriel yn awtomatig cyn y gallant rwystro'r system ddraenio, gan helpu i wella effeithlonrwydd.
  • Yng Nghoed Babis (Babbinswood), bydd mwy na chilomedr o bibell ddraenio hefyd yn cael ei hadnewyddu er mwyn gwella gwytnwch yr ardal i dywydd eithafol. Bydd y gwelliannau yn:

- Lleihau'r risg o lifogydd ac oedi yn ystod glaw trwm.

- Gwella dibynadwyedd ar gyfer gwasanaethau teithwyr a nwyddau.

- Gwella diogelwch trwy ddileu'r angen i staff glirio malurion â llaw mewn amodau peryglus.

- Lleihau gofynion cynnal a chadw parhaus.

- Cefnogi rheilffordd fwy cynaliadwy trwy ddefnyddio dŵr a thechnoleg sy'n cael ei bweru gan yr haul.

  • Bydd peirianwyr yn gwneud gwaith atgyweirio sylweddol i Bont Droi Penarlâg, gan ailosod rhannau o'r trac, cryfhau'r strwythur, gwella draenio a dyfr-glosio, a chwblhau gwaith atgyweirio gwaith brics. Bydd y gwaith yn gwella cyflwr hirdymor y bont, yn lleihau gofynion cynnal a chadw yn y dyfodol ac yn helpu dibynadwyedd trenau.
  • Tra bod gwasanaethau amnewid rheilffyrdd ar waith, rhaid i deithwyr feddu ar docyn dilys cyn myned i’r trên.
  • Mae Talu wrth Fynd yn parhau i fod ar gael rhwng Bidston a Wrecsam Canolog. Dylai teithwyr tapio i mewn ac allan gan ddefnyddio dilyswyr platfform yr orsaf fel arfer a gallant gywiro tapiau a gollwyd trwy’r ap neu wefan TrC y diwrnod canlynol. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid yn ystod yr amhariadau, am weddill mis Awst bydd yr uchafswm o’r nifer o weithiau y gellid cywiro tapiau a gollwyd yn cael ei gynyddu dros dro o 6 i 14.