18 Medi 2026
Mae teithwyr ar draws Cymoedd De Cymru yn cael eu hannog i wirio cyn iddynt deithio ddydd Sul 27 Medi, gan y bydd uwchraddio hanfodol Metro De Cymru yn effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd.
Mae gwaith peirianneg yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn golygu na fydd unrhyw wasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr drwy gydol y dydd.
Er mwyn cadw teithwyr i symud, bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhedeg gwasanaethau bysiau yn lle trenau ar draws yr holl lwybrau yr effeithir arnynt, gyda gwybodaeth lawn am gynllunio teithiau ar gael ar wefan ac ap TrC.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen uwchraddio Metro De Cymru, sy'n helpu i adeiladu rheilffordd fwy dibynadwy, hygyrch a chysylltiedig gwell ar gyfer cymunedau ar draws y Cymoedd.
Yn ystod y cyfnod cau undydd, bydd TrC yn gwneud gwaith signalau hanfodol a bydd hefyd yn cwblhau ystod o welliannau pellach, gan gynnwys cynnal a chadw traciau, rheoli llystyfiant a gwaith strwythurol.
Bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn dychwelyd i normal ddydd Llun 28 Medi.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn gwybod y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy'n teithio rhwng y Cymoedd a Chaerdydd ddydd Sul 27 Medi, a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.
"Er bod yr effaith wedi'i gyfyngu i un diwrnod, rydym yn annog pawb sy'n cynllunio taith i wirio cyn iddynt deithio, gwneud defnydd o'r gwasanaethau bws newydd sydd ar gael a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith lle bo angen."
Am ragor o wybodaeth ewch i: trc.cymru
Nodiadau i olygyddion
Mae gwasanaethau rheilffordd i Rymni yn rhedeg fel arfer.
Bysiau yn lle trenau
Bydd gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn gweithredu drwy gydol dydd Sul 27 Medi tra bydd gwaith peirianneg yn digwydd yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
- Bydd gwasanaethau yn gweithredu tua bob awr rhwng Caerdydd Canolog a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful.
- Bydd derbyn tocynnau hefyd ar waith ar lein y ddinas i helpu cwsmeriaid i gwblhau eu teithiau.
- Oherwydd cyfyngiadau ffyrdd lleol ar y llwybr i Benrhiwceiber, ni fydd bysiau yn gallu gwasanaethu'r orsaf yn uniongyrchol. Bydd gwasanaeth gwennol pwrpasol yn gweithredu ar gyfer cwsmeriaid sy'n teithio i ac o Benrhiwceiber, gyda chysylltiadau ar gael ym Mhontypridd ac Aberpennar.
Cysylltu
Tra bod gwasanaethau amnewid rheilffyrdd ar waith, rhaid i deithwyr feddu ar docyn dilys cyn byrddio.
- Mae tocynnau Talu wrth Fynd yn parhau i fod ar gael, gyda dilyswyr wedi'u lleoli dim ond taith gerdded fer o'r rhan fwyaf o’r arhosfan gwasnaethau bysiau yn lle tren
- Os nad yw dilyswr ar gael, cynghorir cwsmeriaid i brynu eu tocynnau trwy ap neu wefan TrC neu siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm diogelu refeniw TrC a fydd wedi'u lleoli mewn lleoliadau allweddol ar draws y rhwydwaith i gynorthwyo.
- Nid yw teithio Talu wrth i Fynd ar wasanaethau bws lleol yn gymwys i dderbyn tocynnau ar y lein y ddinas. Rhaid i gwsmeriaid sy'n teithio ar lein y ddinas brynu tocyn dilys cyn iddynt deithio. Mae teithio Talu wrth Fynd yn dal yn ddilys ar Wasanaethau bysiau yn lle trenau lle y derbynnir tocynnau.
- Gall cwsmeriaid Talu wrth Fynd nad ydynt yn gallu tapio allan, neu sy'n anghofio gwneud hynny, gwblhau eu taith trwy ap neu wefan TrC y diwrnod ar ôl iddynt deithio trwy ychwanegu tap a gollwyd.
Gan y gall bysiau gymryd mwy o amser na gwasanaethau trên wedi'u trefnu, anogir teithwyr yn gryf i wirio'r diweddariadau teithio diweddaraf ar ap neu wefan TrC a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau.