22 Gor 2026
Bydd uwchraddiadau rheilffyrdd mawr fel rhan o Metro De Cymru yn digwydd yr haf hwn ac mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i wirio cyn iddynt deithio.
Bydd uwchraddiadau rheilffyrdd hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach yn effeithio ar Linellau Cymoedd De Cymru i Gaerdydd ac oddi yno.
Caiff y gwaith ei gyflawni o ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 15 Awst ar draws rhannau o linellau Rhymni, Coryton, Bae Caerdydd, Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Mae hyn yn cynnwys cau am bythefnos ar draws llinell Treherbert a chau am wythnos ar linellau Aberdâr a Merthyr.
Er mwyn cadw teithwyr yn symud, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwasanaethau bws yn lle trên ar waith drwy gydol y blocâd gyda manylion llawn, amserlenni ac offerynnau cynllunio teithiau ar gael yn https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru/newidiadau-gwasanaeth
Bydd y cau yn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru uwchraddio’r rheilffyrdd, ailosod y trac yng ngorsaf Pontypridd, gwneud gwelliannau i’r cledrau a’r system ddraenio ar lein Treherbert a sicrhau mynediad gwastad yng ngorsaf Pentre-bach.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith TrC: "Mae'r gwaith hwn yn gam pwysig arall wrth gyflawni Metro De Cymru a thrawsnewid teithiau rheilffordd ar draws De Cymru. Er ein bod yn gwybod y bydd y cyfnod cau yn achosi rhywfaint o darfu, bydd y gwelliannau rydym yn eu gwneud nawr yn helpu i greu rheilffordd fwy dibynadwy, hygyrch ac wedi'i chysylltu'n well ar gyfer y dyfodol."
"Hoffem ddiolch i gwsmeriaid a chymunedau lleol am eu hamynedd tra bod y gwaith hanfodol hwn yn digwydd. Gan y bydd gwasanaethau rheilffordd yn cael eu heffeithio yn ystod y cau arfaethedig, rydym yn annog cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw a gwirio'r trefniadau teithio a fydd ar waith ar gyfer eich taith, gan gynnwys unrhyw wasanaethau bws yn lle trên, a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio lle bo angen."
Nodiadau i olygyddion
- Caerdydd Heol y Frenhines | Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf – tan diwedd y gwasanaeth Dydd Llun 27 Gorffennaf
Ni fydd unrhyw wasanaethau rheilffordd yn gweithredu ar linellau Rhymni, Coryton na Bae Caerdydd, na rhwng Radur a Chaerdydd Heol y Frenhines trwy Landaf a Cathays.
Bydd gwasanaethau ar linellau eraill y Cymoedd yn parhau i weithredu i Gaerdydd ac oddi yno drwy Lein y Ddinas.
Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Rhymni a Chaerdydd, ac o Radyr i Gaerdydd gan alw yn Llandaf, Cathays a Chaerdydd Heol y Frenhines. Ar ddydd Sadwrn a dydd Llun, bydd gwasanaethau bysiau Rhymni yn rhedeg i ac o Heol y Frenhines, Caerdydd, gyda gwasanaethau bws yn lle trên Bargoed yn rhedeg i ac o Gaerdydd Canolog.
Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, a bydd Bws Caerdydd yn derbyn tocynnau trên drwy gydol y dydd.
- Lein Treherbert - Pontypridd | Dydd Gwener 31 Gorffennaf – Dydd Iau 6 Awst
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwaith peirianneg yn digwydd rhwng Treherbert a Phontypridd, gyda gwasanaethau bws yn lle trên ar waith.
- Treherbert / Aberdâr / Merthyr - Radur | Dydd Gwener 7 Awst – Dydd Sadwrn 15 Awst
Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr a Radur. Yn ystod y cyfnod cau, bydd gwasanaethau rheilffordd yn parhau i weithredu rhwng Radur a Chaerdydd Canolog drwy Landaf a Pharc Ninian.
Yn ystod y cyfnod o gau llinellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg bob 30 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a phob awr ar ddydd Sul.
Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith ar gyfer nifer fach o wasanaethau hwyr y nos ddydd Iau 30 Gorffennaf a rhai gwasanaethau cynnar yn y bore ddydd Sul 16 Awst rhwng Pontypridd a Threherbert.
- Oherwydd cyfyngiadau ffyrdd lleol, ni fydd y prif wasanaeth bws yn lle trên ar hyd lein Aberdâr yn galw ym Mhenrhiwceibr. Er mwyn cadw teithwyr i symud, bydd gwasanaeth bws mini gwennol pwrpasol yn gweithredu rhwng Abercynon, Penrhiwceibr ac Aberpennar.
- Er mwyn darparu ar gyfer gwasanaethau bws yn lle trên, bydd y maes parcio yng ngorsaf Radyr ar gau dros dro o Dydd Llun, 3 Awst. Gofynnir i gwsmeriaid beidio â pharcio ar strydoedd preswyl cyfagos ac fe'u hanogir i ddefnyddio meysydd parcio eraill ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys Llandaf, Ffynnon Taf, Trefforest ac Abercynon.
Er mwyn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru gwblhau gwelliannau hanfodol, bydd gorsafoedd Pontypridd a Phentrebach ar gau yn ystod y gwaith.
Tocynnau
Tra bod gwasanaethau bws yn lle trên ar gael, rhaid i deithwyr fod â thocyn dilys cyn mynd ar y bws. Mae tocynnau talu wrth fynd yn parhau i fod ar gael, gyda dilyswyr wedi’u lleoli o fewn pellter cerdded byr i’r rhan fwyaf o safleoedd bws yn lle trên.
Os nad oes dilysydd ar gael, cynghorir cwsmeriaid i brynu eu tocynnau drwy ap neu wefan TrC neu siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm diogelu refeniw TrC a fydd wedi'u lleoli mewn lleoliadau allweddol ar draws y rhwydwaith i gynorthwyo teithwyr.
Gall teithwyr sydd â chyfrif talu wrth fynd sy'n methu â thapio allan, neu sy'n anghofio gwneud hynny, hefyd gwblhau eu taith drwy ap neu wefan TrC y diwrnod ar ôl iddynt deithio drwy ychwanegu tap a fethwyd.
Er mwyn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i deithwyr sy'n defnyddio talu wrth fynd, caiff nifer y cywiriadau tapio y gall pob defnyddiwr eu gwneud bob mis ei gynyddu dros dro o 6 i 14 yn ystod mis Awst.
Gan y gallai gwasanaethau bws yn lle trên gymryd mwy o amser na'r gwasanaethau trên arferol, anogir teithwyr yn gryf i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf am eu taith ar ap neu wefan TrC a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau.