14 Ebr 2025
Mae'n bleser gan Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi y bydd yn cynnal Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyntaf Cymru ar 22 a 23 Mai yn Wrecsam, Gogledd Cymru.
Bwriad yr Uwchgynhadledd deuddydd o hyd yw dod ag arweinwyr trafnidiaeth a busnes dylanwadol Cymru a Lloegr ynghyd, gan geisio datgloi ffyniant economaidd o berspectif trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gwella trafnidiaeth integredig a seilwaith yn fecanweithiau allweddol wrth sicrhau newid cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru a'r Gororau.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn rhoi cyfle i'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector gydweithio a rhannu gweledigaethau ar gyfer dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a'r Gororau.
Dros y chwe blynedd diwethaf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon a thros £1 biliwn yn system Metro De Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei thrawsnewid er gwell yng Nghymru, gan gynnwys drwy ein buddsoddiad mewn trenau newydd a chreu dyfodol cyffrous i'r sector bysiau drwy ein Bil Bysiau. Rwy'n edrych ymlaen at Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyntaf Cymru lle bydd gennym gyfle i gydweithio ar draws pob sector a thros y ffin."
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Dyma Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyntaf Cymru. Bydd amrywiaeth o siaradwyr dylanwadol a diddorol iawn yn ymuno a ni ac yn ffurfio rhan o'r drafodaeth am ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a'r Gororau.
“Mae hyn yn ymwneud â meithrin partneriaethau cydweithio rhwng pob sector yn y diwydiant trafnidiaeth a chynnig gweledigaeth gydgysylltiedig ar gyfer y dyfodol.
“Byddwn yn annog cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector trafnidiaeth a'r gymuned fusnes yng Nghymru a'r Gororau i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn.”
Cliciwch ar y ddolen hon i gael gwybod am yr Uwchgynhadledd a manylion siaradwyr a thocynnau: www.trc.cymru/uwchgynhadledd