30 Hyd 2020
Mae dyn 91 oed o Gaerdydd, a ddaeth i Gymru fel rhan o genhedlaeth Windrush, wedi datgelu gwybodaeth ddifyr am y 31 mlynedd a dreuliodd yn gweithio ar y rheilffordd.
Fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon, fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru gyfweld â Percival Hanniford ynglŷn â’i fywyd a’i yrfa ar y rheilffyrdd.
Cafodd Mr Hanniford ei eni yn Jamaica, a phan oedd yn ŵr ifanc, newydd ddechrau teulu, byddai’n clywed hysbysebion ar y radio yn galw ar bobl i symud i Brydain i weithio.
Roedd dau o frodyr ei wraig eisoes wedi symud i Birmingham a Chaerdydd, a phan gollodd ei waith yn Kingston, penderfynodd fentro i’r Deyrnas Unedig, a setlo yng Nghaerdydd yn y pen draw.
“Roedd yn dipyn o sioc oherwydd roedd hi mor oer pan wnes i gyrraedd, a doeddwn i ddim yn hoffi hynny,” meddai Mr Hanniford.
“Doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i swydd ond dywedodd fy mrawd-yng-nghyfraith wrthyf i brynu papur newydd yr Echo am dair ceiniog, a gwelais swydd Giard, a meddwl mai milwr oedd ystyr hynny!”
Rhoddwyd Mr Hanniford ar brawf drwy ddysgu llwybrau, signalau a rheoliadau'r rheilffyrdd dros gyfnod dwys o bythefnos, cyn cael ei anfon gan British Rail i ddinasoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Cafodd becyn yn cynnwys ei atodiad ar gyfer y rheilffordd, llumanau coch a gwyrdd, lamp a ffrwydrynnau rhag ofn fod rhwystrau ar y cledrau.
“Roedd yr eira cynddrwg pan ddechreuais i yn 1962 fel bod afon Taf wedi rhewi’n gorn a gallech chi gerdded arni,” meddai.
“Fe wnaeth British Rail gau i lawr ac roedd hi'n amhosib gweld y cledrau, a ble bynnag roedd yr injanau wedi stopio bu’n rhaid iddynt aros yno am ddau ddiwrnod.
“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r trenau stêm oherwydd roedden nhw’n gynnes a gallech chi fynd at y gyrrwr a theimlo’r gwres o’r tân. Doedd y trenau disel ddim yr un peth, a dim ond gwresogydd bach oedd yn y rheini. Byddech chi'n mynd at y cab, a byddai'r gyrrwr yn dweud ‘chei di ddim dod i mewn!’.
I ddechrau, roedd rhaid i Mr Hanniford a’i wraig adael eu pedwar plentyn yn Jamaica hyd nes roeddent wedi ennill digon i’w symud nhw drosodd fesul un.
Er ei bod yn anodd iddo ddod o hyd i swydd ar y dechrau, dywedodd na ddaeth ar draws unrhyw hiliaeth yn ystod ei yrfa ar y rheilffyrdd. Bu’n gweithio gyda phobl o wahanol wledydd a oedd wedi symud i Brydain gan fod prinder llafur oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Un atgof arbennig sydd ganddo yw darganfod dau deithiwr cudd yng nghefn y trên un bore.
“Fe glywson ni lais yn gweiddi ‘gadewch i ni ddod mas’, a llawer o sŵn,” esboniodd Mr Hanniford.
“Roedd dau ddyn wedi neidio ar y trên nwyddau o Ben-y-bont ar Ogwr ac roedden nhw’n gobeithio cael reid am ddim i Lundain. Cawson nhw dipyn o sioc o’u cael eu hunain yng Nghaerdydd!”
Fe wnaeth ei yrfa gynnwys y symudiad o stêm i ddisel, cyfnod cau’r pyllau glo yn y de, a dod i ben wrth i breifateiddio ddigwydd yn yr 1990au. Aeth o fod yn giard i fod yn siyntwr ac yna yn brif siyntwr, yn gweithio yn depo Newtown yng Nghaerdydd. Byddai’n helpu i baratoi trenau i deithio ledled Prydain ac Ewrop yn cludo nwyddau, gan gynnwys cigoedd, da byw a glo.
Treuliodd Mr Hanniford lawer o flynyddoedd hefyd fel gweithiwr mewn gofal ac fel gweithiwr goruchwyliol mewn gofal, yn gweithio gyda nwyddau.
Yn ystod ei gyfnod ar y rheilffyrdd, gwnaeth Percival Hanniford ffrindiau oes, ac mae’n dal i weld rhai ohonynt hyd heddiw. Ac mae gan rai o weithlu presennol Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Martyn Brennan, a’r Pennaeth Gyrwyr Julian Thomas, atgofion cynnes o weithio gyda Mr Hanniford yn yr 1980au a’r 90au.
“Cefais yrfa dda iawn, ac roedd British Rail yn gyfle gwych i mi,” meddai Mr Hanniford.
“Roedd rhaid i ni sicrhau bod diogelwch yn dod yn gyntaf oherwydd nid bod yn gyfrifol amdanoch chi eich hun oeddech chi yn unig, roeddech chi'n gyfrifol am eich holl gydweithwyr a phawb arall ar y trên hefyd.”
Cynhaliwyd y cyfweliad gan Gareth Derry o Dîm Gweithrediadau Diogelwch Trafnidiaeth Cymru.
Fel cyn-yrrwr ei hun, disgrifiodd Gareth y drafodaeth fel “anrhydedd fawr”.
Dywedodd: “Roedd yn ddifyr darganfod, ar adeg pryd rydyn ni'n aml yn clywed am y frwydr dros gydraddoldeb hiliol, fod ei brofiad ef ar y rheilffyrdd yn wahanol. Mae’r gydnabyddiaeth a’r gyd-gefnogaeth i bob cydweithwyr, sef elfennau a oedd yn frith yn ei atgofion, yn dangos y nerth a’r undod yn y rheilffyrdd ar y pryd, a dyma nodweddion sydd wedi parhau drwy gydol ei yrfa a’i ymddeoliad.
Roedd yn ddiddorol clywed hefyd, o ystyried fy swydd i fel ymarferwr diogelwch, pa mor bwysig yn y cyfnod hwnnw oedd yr egwyddor graidd sef cymryd cyfrifoldeb dros eich diogelwch eich hun a deall sut mae hynny’n effeithio ar bobl o’ch cwmpas. Yn sicr, mae’r cyngor hwnnw, er gwaethaf llawer o ddatblygiadau mewn systemau diogelwch a thechnoleg, yn dal o bwys sylfaenol hyd heddiw.
“Roedd yn gyfle na allwn i eu wrthod. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ffordd wych o ddysgu am y cyfraniad enfawr a wnaed gan gynifer o genedlaethau o bobl a ddaeth i'r wlad yma i adeiladu bywyd newydd. Mae’n gyfle i ddeall sut oedd pethau drwy eu llygaid nhw ac i ddarganfod sut mae pobl wedi aberthu er mwyn siapio dyfodol newydd.”