05 Rhag 2025
Mae’r platiad bach o fol porc, y cinio Nadoligaidd gyda thwrci gan ddilyn gyda chrymbl Nadoligaidd – mae bwydlen y Nadolig yn ôl! Ydi, mae arlwy Nadoligiadd ar fwrdd trenau Trafnidiaeth Cymru wedi dychwelyd ar gyfer y Nadolig hwn!
Bydd arlwy Nadoligaidd ar gael ar rai o wasanaethau TrC. Dyma gyfle i deithwyr nid yn unig fwynhau teithio ar y trên ond mwynhau arlwy Nadoligiadd tymhorol wedi'i ddylunio gan feistr o uwch-gogydd. Mae opsiynau llysieuol ar gael hefyd, gan sicrhau y gall pob teithiwr fwynhau'r profiad bwyta Nadoligaidd.
P'un a ydych chi'n awyddus i greu atgofion gyda theulu a ffrindiau, yn paratoi am sbri o siopa neu am fwynhau'r golygfeydd rhagorol Cymru, mae cogyddion TrC yn barod i greu hwyl yr ŵyl i chi ar ein trenau.
Gall cwsmeriaid ddewis
- Dau gwrs am £26.95
- Tri cwrs am £29.95
- A beth am ychwanegu botel 75cl o win y tŷ i goroni'r cyfan am gost ychwanegol.
Dywedodd Piers Croft, Cyfarwyddwr Gwasanaethau ar Fwrdd Trenau Trafnidiaeth Cymru: “Mae'r Nadolig yn amser prysur o'r flwyddyn a pa ffordd well o deithio ac i fynd i mewn i Ysbryd yr Ŵyl na mwynhau pryd o fwyd Nadoligaidd ar un o'n trenau?
“Dyma'r ffordd berffaith o ymlacio, dathlu a chyrraedd eich cyrchfan mewn steil.
Bydd y fwydlen Nadoligaidd ar gael tan 24ain Rhagfyr. Boed chi'n teithio ar gyfer busnes neu hamdden, gallwch ddefnyddio ap Seatfrog i uwchraddio'ch tocyn am lai o gost.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/bwyd-a-diod/ciniawa-or-radd-flaenaf/dosbarth-cyntaf
Nodiadau i olygyddion
Bydd bwydlen Nadolig Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gweini ar wasanaethau dethol rhwng Abertawe/Caerdydd - Manceinion a Chaerdydd - Caergybi a weithredir gan drên Mark IV Trafnidiaeth Cymru.