Skip to main content

Passenger numbers up 1.6m at Transport for Wales

17 Hyd 2024

Cofnododd Trafnidiaeth Cymru (TrC) y cynnydd mwyaf yn nifer y teithwyr o holl gwmnïau trenau'r DU y gwanwyn hwn, cynnydd o 27% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae data sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos bod 7.6 miliwn o deithiau wedi'u gwneud ar wasanaethau TrC rhwng Ebrill a Mehefin eleni, o'i gymharu â 6 miliwn yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol James Price: "Os edrychwch chi ar y niferoedd, rydyn ni'n gweld cynnydd mewn llawer o wahanol gymunedau, nid dim ond mewn un neu ddwy ardal.

"Mae hynny oherwydd gwaith caled cymaint o bobl i ddarparu gwasanaeth cyson a dibynadwy.

"Rydym hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o drenau newydd sbon wrth i ni fwrw ymlaen â’n hymrwymiad o £800 miliwn i uwchraddio ein fflyd.

"Dyfal donc a dyrr y garreg yw hi – rydym yn dyfalbarhau er mwyn gwneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru y gorau y gall fod, ac mae'n galonogol gweld mwy a mwy o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer eu bywydau bob dydd."

Gellir priodoli'r cynnydd yn nifer y teithwyr i nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • Cyflwyno trenau newydd sbon (Ym mis Ebrill 2023, roedd TrC wedi cyflwyno 26 trên newydd sbon i'r rhwydwaith. Erbyn Ebrill 2024, 57 oedd y ffigwr).
  • Gwasanaethau ychwanegol ar linell Wrecsam i Bidston a gwasanaethau newydd sbon o Lyn Ebwy i Gasnewydd.
  • Gwell perfformiad o ran prydlondeb (gwelliant +8.1%) a dibynadwyedd (nifer yr achosion o ganslo wedi gostwng gan 3.2%), o'i gymharu â'r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn 2023.
  • Ehangu cyflwyniad y dull Talu Wrth Fynd yn ne-ddwyrain Cymru, gan ei gwneud hi'n haws fyth teithio ar y trên.
  • Cyflwyno tocynnau Advance rhatach ar draws llawer o'r rhwydwaith, sydd ar gael i’w prynu hyd at y diwrnod teithio ac ar y diwrnod hefyd.
  • Ailagor llinell Treherbert ym mis Chwefror 2024 (cyfrannodd tua 316,000 o deithiau o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol).

Mae digwyddiadau mawr allweddol yng Nghaerdydd hefyd wedi cyfrannu at y cynnydd, gyda Bruce Springsteen, Pink, Foo Fighters a Taylor Swift i gyd yn cynnal cyngherddau yn y brifddinas rhwng Mai a Mehefin eleni.

Mae rhai o'r llinellau sydd wedi gweld twf cryf yn cynnwys:

  • Mae Caer-Manceinion/Lerpwl wedi cyfrannu ychydig yn llai na 11% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
  • Mae Caerdydd-Merthyr wedi cyfrannu ychydig dros 10% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
  • Mae Caer-Birmingham Int wedi cyfrannu ychydig yn llai na 10% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
  • Mae Caerdydd-Abertawe wedi cyfrannu ychydig llai nag 8% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
  • Mae Crewe-Caergybi wedi cyfrannu ychydig llai na 6% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni

Nodiadau i olygyddion


TrC oedd y cwmni trenau a oedd wedi gwella fwyaf o ran dibynadwyedd a lleihau canslo o fis Ebrill i Fehefin 2024 – Passenger rail performance – April to June 2024 (orr.gov.uk)

Eleni hefyd gwelwyd cynnydd sylweddol o ran boddhad teithwyr, gydag Arolwg Defnyddwyr Rheilffordd Transport Focus yn dangos bod 88% o gwsmeriaid yn fodlon - ein sgôr uchaf ers dechrau'r arolwg.

Gellir gweld ffigyrau’r Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR), sy'n dangos y cynnydd o 27% ar gyfer Ebrill i Fehefin YMA.

Yn seiliedig ar gyfnod diweddaraf y rheilffyrdd (2025/P06), mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi parhau i berfformio'n well na'r diwydiant rheilffyrdd ehangach o ran refeniw, niferoedd ac adferiad cynnyrch yn erbyn y sefyllfa cyn COVID (gyda Rheilffyrdd TrC 11% ar y blaen o ran adfer niferoedd).

Mae Rheilffyrdd TrC hefyd ymhell ar y blaen o’i gymharu â’r diwydiant ehangach o ran twf o flwyddyn i flwyddyn mewn refeniw a niferoedd, gyda Rheilffyrdd TrC 17% ar y blaen o ran maint y twf.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023, roedd TrC yn rhedeg 7071 o wasanaethau’r wythnos. Yn y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin 2024 roedd hynny wedi cynyddu i 7119.