30 Hyd 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru gam arall yn nes at gyflawni Metro De Cymru ac mae bellach wedi trydaneiddio’r rheilffordd o Aberdâr i Bontypridd a Merthyr Tudful i Abercynon.
Mae dros 60,000 metr o Gyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) nawr wedi cael ei drydaneiddio ar draws holl rwydwaith rheilffyrdd Metro De Cymru.
Bydd Metro De Cymru yn darparu mwy o wasanaethau rheilffyrdd ac yn ei gwneud yn haws i bobl deithio yn y rhanbarth. Mae trenau tram Class 398 newydd sbon Citylink eisoes yn cael eu profi ar lwybrau’r Metro ac mae’r Depo Metro gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf bron â chael ei gwblhau.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith y Rheilffyrdd yn TrC:
“Mae hon yn garreg filltir allweddol arall yn y gwaith o drawsnewid rheilffyrdd craidd y cymoedd wrth i ni barhau i symud ymlaen i gyflawni Metro De Cymru.
Mae’n gyffrous iawn gweld mwy o reilffyrdd yn cael eu trydaneiddio yn Ne Cymru a thrwy gyflawni’r Metro byddwn yn darparu opsiwn teithio mwy cynaliadwy i bobl.
Depo Ffynnon Taf yw cartref ein trenau tram newydd ac mae’n wych gweld y cerbydau rheilffordd ysgafn hyn allan yn cael eu profi ac mewn gwasanaeth i deithwyr cyn bo hir”.
Mae gwaith trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn golygu bod modd darparu gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a Blaenau'r Cymoedd.
Wrth i TrC barhau i drydaneiddio mwy o’r rheilffordd yn Ne Cymru, maen nhw’n annog y cyhoedd i fod yn ymwybodol o’r risgiau diogelwch. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn anghyfreithlon, ac mae gwneud hynny heddiw yn golygu risg uwch o losgiadau difrifol a marwolaeth yn y pen draw.
Os gwelwch chi unrhyw ymddygiad amheus ar y cledrau, rhowch wybod i’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
· Ffoniwch 0800 40 50 40
· Anfonwch neges destun at 61016
· Ffoniwch 999 mewn argyfwng
· Neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.