Skip to main content

Extra trains confirmed for weekend of events across South Wales

14 Mai 2026

Bydd gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) wasanaethau rheilffordd ychwanegol a chynyddi capasiti'r penwythnos hwn (16 - 17 Mai) i gefnogi'r rhai sy'n teithio i Monster Jam, Gŵyl Fach y Fro a Ras 10K Ynys y Barri. 

Ar ddydd Sadwrn 16 Mai, mae Monster Jam yn dychwelyd i Stadiwm y Principality, tra bod Ynys y Barri yn cynnal Gŵyl Fach y Fro, gŵyl iaith boblogaidd.

Daw'r penwythnos i ben ddydd Sul 17 Mai gyda Ras 10K Ynys y Barri, a fydd yn gweld miloedd o redwyr a gwylwyr yn mynd i Fro Morganwg. 

Er mwyn bodloni'r galw disgwyliedig, mae TrC wedi darparu gwasanaethau ychwanegol a chynyddi capasiti ar draws y rhwydwaith.

Yn dilyn digwyddiad Monster Jam ddydd Sadwrn, cynghorir teithwyr sy'n mynd i'r Cymoedd neu Fro Morganwg i ddefnyddio Heol y Frenhines Caerdydd gyda phob ciw arall yn sgwâr Caerdydd Canolog. 

Bydd system giwio ar waith o 17:00. 

Anogir cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw, gwirio'r wybodaeth amserlen ddiweddaraf a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau. 

Dywedodd Georgina Porter, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: "Mae'n benwythnos gwych i Dde Cymru gyda chymysgedd go iawn o chwaraeon, diwylliant ac adloniant teuluol. Mae cael digwyddiadau lluosog ar draws Caerdydd ac Ynys y Barri yn golygu y bydd gwasanaethau'n llawer prysurach nag arfer.

“Rydym wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau, gan gynnwys Run 4 Wales, i sicrhau ein bod yn darparu cymaint o gapasiti â phosibl. Rydym am i bawb fwynhau eu diwrnod, felly rydym yn gofyn i gwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw, gwirio'r wybodaeth teithio ddiweddaraf, a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau."

Dywedodd Gareth Ludkin, Pennaeth Cynaliadwyedd i Run 4 Wales: "Rydym wrth ein bodd yn cael cefnogaeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) cyn ein digwyddiad 10K Ynys y Barri y penwythnos hwn, gan annog ein cyfranogwyr a'n cefnogwyr i deithio'n gynaliadwy.    

"Mae’n wirioneddol bwysig i ni, a bydd cefnogaeth barhaus TrC yn ein helpu i leihau effaith amgylcheddol ein digwyddiadau yn sylweddol. 

"Mae teithio ar y trên yn un o'r ffyrdd hawsaf a mwyaf di-straen o ddechrau diwrnod eich ras."

Ychwanegodd Aled Wyn Phillips, Rheolwr Gwasanaeth i Fenter Bro Morgannwg: "Gŵyl Fach y Fro, a drefnir gan Menter Bro Morgannwg, yw dathliad iaith Gymraeg mwyaf Bro Morgannwg, gan ddenu bron i 9,000 o bobol i Ynys y Barri.

"Mae'r ŵyl rhad ac am ddim yma, sy'n addas i deuluoedd, yn dod á cherddoriaeth, perfformiadau ac ysbryd cymunedol i leoliad bywiog ac eiconig.

"Mae’r hwb eleni i drafnidiaeth gyhoeddus yn enfawr, gan wneud teithio yn haws ac agor yr ŵyl i fwy o bobl nag erioed o’r blaen.” 

Nodiadau i olygyddion


O ddydd Sul 17 Mai, bydd amserlenni'n newid. Gwiriwch eich taith am newidiadau i amseroedd, platfform neu unrhyw gysylltiadau i wasanaethau sy'n gweithredu gan gwmnïau trên eraill.  

Monster Jam 

Yn dilyn digwyddiad Monster Jam, cynghorir teithwyr sy'n mynd i'r Cymoedd neu Fro Morganwg i fynd i Heol y Frenhines, Caerdydd yn hytrach na Chaerdydd Canolog,

Bydd gwasanaethau Glyn Ebwy a Maesteg yn gadael o Gaerdydd Canolog. 

  • Bydd ciwio yn dechrau yng Nghaerdydd Canolog a Heol y Frenhines, Caerdydd o 17:00
  • Bydd cymorth hygyrchedd yn parhau i fod ar gael yng Nghanol Caerdydd i bob teithiwr
  • Bydd Cyfnewidfa Bysiau Caerdydd ar gau yn unol â chau ffyrdd lleol rhwng 11:00 a 19:30

Gŵyl Fach y Fro 

I gefnogi'r rhai sy'n teithio o'r ŵyl, bydd TrC yn gweithredu'r gwasanaethau ychwanegol nos Sadwrn: 

  • 20:19 Ynys y Barri –Caerdydd Canolog (gwasanaeth ychwanegol)
  • 21:19 Ynys y Barri – Caerdydd Canolog (gwasanaeth ychwanegol)
  • 21:49 Ynys y Barri – Caerdydd Canolog (gwasanaeth ychwanegol) 

10K Ynys y Barri   

Mae TrC wedi gweithio'n agos gyda Run 4 Wales i ddarparu gwasanaethau ychwanegol i ac o Ynys y Barri i ddarparu ar gyfer rhedwyr, gwylwyr a mynychwyr digwyddiadau. 

Bydd y gwasanaethau ychwanegol canlynol yn gweithredu ddydd Sul: 

  • 07:39 Caerdydd Canolog – Ynys y Barri (cyrraedd 08:09) 
  • 07:59 Caerdydd Canolog – Ynys y Barri (cyrraedd 08:29)   
  • 08:06 Caerdydd Canolog – Ynys y Barri (cyrraedd 08:43)
  • 08:40 Pen-y-bont ar Ogwr – Caerdydd Canolog, yn cysylltu ag Ynys y Barri (cyrraedd 08:59 - cyrraedd Ynys y Barri 09:12) 

Bydd y gwasanaeth 07:35 o Gaerffili yn gweithredu fel bws yn lle trên i Gaerdydd Canolog, lle gall teithwyr gysylltu â'r 08:29 gwasanaeth Caerdydd Canolog i Ynys y Barri, yn cyrraedd am 08:59.

Llwytho i Lawr