Skip to main content

Extra trains for Football World Cup qualifier.

10 Hyd 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg trenau ychwanegol i sicrhau y gall y 'Wal Goch' gyrraedd a gadael y brifddinas ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg.

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru deithio i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Llun, 13 Hydref 2025, gyda rhagor gapasiti a gwasanaethau trên wedi'u hail-amseru ar waith ar hyd llwybrau allweddol er mwyn helpu i gefnogi Cymru yn ei hymgais i ennill ei lle yng Nghwpan y Byd.

I gynorthwyo cefnogwyr sy'n teithio, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaeth hwyrach i Ogledd Cymru o Gaerdydd ar ôl y gêm.

Cynghorir cefnogwyr i ddefnyddio gwefan neu ap Trafnidiaeth Cymru i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf o ran amserlenni, sy'n cynnwys manylion am wasanaethau ychwanegol sy'n cael eu darparu ar ôl y gêm; Gemau rhyngwladol Cymru | Trafnidiaeth Cymru

Dywedodd Georgie Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn deall bod y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn un o gemau pwysicaf ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu ar gyfer y ‘Wal Goch’ fel y gallan nhw gyrraedd mewn pryd i gefnogi’r tîm a mynd adref yn ddiogel.”

Yr orsaf reilffordd agosaf at y stadiwm yw Parc Ninian, sydd tua phum munud ar droed o'r maes. Atgoffir cefnogwyr y bydd y gwasanaethau ychwanegol yn brysur ac fe’u cynghorir i gyrraedd yr orsaf yn brydlon ar ôl y chwiban olaf.

Anogir cefnogwyr i brynu tocynnau cyn mynd ar y trên drwy ap neu wefan TrC: Prynu tocynnau trên | Tocynnau trên rhad - trc.cymru 

Nodiadau i olygyddion


Bydd Bws Caerdydd hefyd yn rhedeg bysiau gwennol ar lwybr 95 rhwng canol y ddinas a Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm.

Bydd bysiau'n gadael o Stryd Wood (JB) yng nghanol y ddinas ac yn rhedeg bob 15 munud i'r stadiwm. Mae'r bws cyntaf yn gadael 2 awr cyn y gic gyntaf, a'r bws olaf yn gadael 15 munud cyn y gic gyntaf. Bydd gwasanaethau dychwelyd yn rhedeg yn ôl i ganol y ddinas ar ôl y gêm.

Llwytho i Lawr