Skip to main content

Extra trains for Wales v Kazakhstan.

11 Maw 2025

Bydd trenau ychwanegol ar gael i alluogi cefnogwyr pêl droed Cymru i ddychwelyd adref o gêm bwysig i ennill lle yng Nghwpan y Byd y mis hwn.

Bydd Cymru’n chwarae yn erbyn Kazakstan yn ei gêm gyntaf yng ngrŵp J ddydd Sadwrn 22 Mawrth am 19:45 yng Nghaerdydd, gan obeithio ennill lle yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2026.

I gefnogi’r digwyddiad, bydd Trafnidiaeth Cymru’n rhedeg trenau ychwanegol rhwng Caerdydd a gogledd Cymru yn ogystal â threnau ychwanegol ar gyfer y gêm rhwng Wrecsam a Stockport yng nghynghrair 1 sydd ar yr un diwrnod.

Yn ffodus i gefnogwyr, mae gwaith peirianneg a gynlluniwyd ar gyfer y penwythnos hwnnw yng ngogledd Cymru bellach wedi’i ail-drefnu.

Roedd Network Rail yn bwriadu cyflawni tri darn o waith rhwng Amwythig a Wrecsam dros y penwythnos hwnnw a oedd yn golygu y byddai teithwyr yn gorfod dod ar lwybr gwahanol i Gaerdydd

Cynlluniwyd y gwaith yn ôl yn 2023 ond ni chadarnhawyd y gemau tan ddechrau’r flwyddyn hon.

Dywedodd Georgie Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n deall pwysigrwydd y digwyddiadau chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliannol mawr hyn i’n heconomi.

“Drwy weithio â FAW, rydyn ni’n ymwybodol bod cefnogwyr o ogledd Cymru yn dod i ddibynnu fwyfwy ar ein gwasanaethau er mwyn dod i Gaerdydd ac yn ôl, sy’n dyst o’r gwelliannau rydyn ni wedi eu gwneud dros y 18 mis diwethaf. Unwaith eto felly rydyn ni wedi gallu ychwanegu at ein hamserlen arferol gan roi trenau ychwanegol ar waith i gefnogi’r rheini sydd am deithio adref wedi’r gêm.

“Roedd yr un yma’n fwy heriol oherwydd ni wnaethant gadarnhau’r gemau tan ddechrau’r flwyddyn ac roedd yn bosib y byddai Cymru’n chwarae i ffwrdd.

“Fodd bynnag, mae gennym berthynas gwych â Network Rail ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i ddatrys y sefyllfa.”

Ceir trenau ychwanegol hefyd er mwyn cefnogi gemau Cymru a Wrecsam.

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybr Cymru a’r Gororau Network Rail,

“Gwnaeth ein partneriaid yn Trafnidiaeth Cymru ofyn inni symud ein gwaith peirianneg oherwydd y nifer sylweddol o gefnogwyr pêl droed Cymru a fyddai eisiau teithio i ogledd Cymru ac yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn Kazakhstan yng Nghaerdydd.

“Bwriadwyd gwneud y gwaith rhwng Amwythig a Wrecsam rhwng bore dydd Sadwrn a bore dydd Llun.

“Fodd bynnag, rydyn ni wedi gallu symud peth ohono i fore dydd Sul rhwng 1am a 9:30am, a’r gweddill i fis Chwefror 2026.

“Nid ydyw bob amser yn bosib symud gwaith o’r fath ond yn yr achos hwn roedden ni wedi gallu ymateb i hyn ac rydyn ni’n hapus i gynorthwyo cynllun TrC o redeg gwasanaethau ychwanegol ar nos Sadwrn a bore dydd Sul.”

Nodiadau i olygyddion


Roedd Network Rail wedi bwriadu gwneud gwaith ar dri safle rhwng Amwythig a Wrecsam rhwng 12:50am ddydd Sadwrn 22 Mawrth a 5:15am ddydd Llun 24 Mawrth. Roedd y gwaith yn cynnwys trawstiau tampio yng Nghroes Newydd, gwaith draenio yn Weston Rhyn, a gwaith ar groesfan rheilffordd Leaton yn Pimhill.

Dyma’r gwasanaethau ychwanegol a fydd yn rhedeg:

Dydd Sadwrn 22 Mawrth

22.20 o Gaerdydd Canolog i Gaer (ychwanegol)

17.17 o Wrecsam Cyffredinol i Gaergybi (gwasanaeth wedi’i ail-amseru a’i atgyfnerthu i gefnogi diwedd y digwyddiad)

17.48 o Wrecsam Cyffredinol i Birmingham New Street (gwasanaeth wedi’i atgyfnerthu i gefnogi diwedd y digwyddiad)

Dydd Sul 23 Mawrth

11.08 o Gaerdydd Canolog i Gaer (ychwanegol). Mae yna wasanaeth cysylltu i arfordir gogledd Cymru.