02 Ebr 2019
Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi ymweld â’r gwneuthurwr cerbydau trên Vivarail i weld trenau newydd Trafnidiaeth Cymru a fydd yn gweddnewid profiad y cwsmer ar reilffyrdd gogledd Cymru.
Mae’r trenau’n rhan o’r buddsoddiad £5 biliwn gan Trafnidiaeth Cymru ar draws Cymru a’r Gororau, a disgwylir iddynt gael eu rhoi ar waith gyntaf yng ngogledd Cymru, yn ystod 2019.
Gyda thoiledau cwbl hygyrch, socedi pŵer, gwybodaeth electronig i deithwyr, Wi-Fi, raciau ar gyfer beiciau ac aerdymheru, mae’r trenau’n garreg filltir bwysig i Trafnidiaeth Cymru, gan eu bod yn parhau i wireddu’r cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru a’r gororau.
Bydd y trenau ychwanegol yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon ac ystyriol o’r amgylchedd gan ddefnyddio peiriannau disel a batris. Yr unedau hybrid newydd fydd y rhai cyntaf i gael eu defnyddio’n rheolaidd ar wasanaethau i deithwyr yn y DU.
Bydd pob trên yn cynnwys tri cherbyd sydd â 125 o seddau, gan roi cyfanswm o 293. Bydd gogledd Cymru yn elwa o’r unedau newydd yn gyntaf ar lwybr Wrecsam i Bidston, cyn llwybrau Crewe i Gaer a Llandudno i Flaenau Ffestiniog.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Roedd hi’n wych ymweld â’r gwneuthurwr cerbydau trên, Vivarail, a gweld trenau Trafnidiaeth Cymru a fydd yn rhedeg ar lwybrau yn y Gogledd yn ddiweddarach eleni.
“Rydym wedi cael cyfle i fynd am reid ar y trenau ar gledrau profi Vivarail i gael gwell dealltwriaeth o’r peiriant hybrid. Nid yn unig y bydd y rhain yn gweddnewid y profiad ar y trenau i deithwyr yng ngogledd Cymru, byddant hefyd yn defnyddio 25 y cant yn llai o danwydd ac mae ganddynt system frecio atgynhyrchiol sy’n cipio egni yn ôl i’r batris.
“Mae’r trenau modern hyn yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a’r amgylchedd, yn ogystal â’n cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid y profiad i ddefnyddwyr trenau.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i wella ein gwasanaethau rheilffordd a thrwy ein buddsoddiad rwy’n hyderus y bydd pobl ar draws Cymru yn elwa o’r gwasanaeth rheilffordd gorau i deithwyr yn y DU yn y blynyddoedd i ddod. Bydd hynny’n newid holl-bwysig wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae cwsmeriaid wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud yn Trafnidiaeth Cymru. Bydd ein trenau newydd sydd â pheiriannau hybrid a chyfleusterau modern yn gwella’r profiad i’r cwsmer yn sylweddol.
“Rydym yn parhau â’n siwrnai i drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a gwireddu ein haddewidion. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb o’n staff a’n partneriaid, sy’n ein helpu i wireddu ein gweledigaeth.”
Dywedodd Sara Holland, Cyfarwyddwr Stoc Rholio Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru: “Diogelwch a chysur teithwyr yw ein blaenoriaeth. Fel cyflenwr heini a hyblyg, mae Vivarail yn gweithio gyda ni i ddylunio a gweithgynhyrchu atebion ar y rheilffyrdd sy’n gweithio i ni a’n cwsmeriaid. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddod â’r trenau newydd i ogledd Cymru yn ddiweddarach eleni.”