02 Rhag 2021
Mae cyfnod newydd o deithio ar drenau yng Nghymru yn dechrau wrth i drenau newydd sbon gyrraedd. Bydd y trenau’n rhoi mwy o gapasiti a gwasanaethau gwell i deithwyr Trafnidiaeth Cymru.
Mae TrC yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau – gyda’r ddau drên newydd sbon cyntaf gan y prif wneuthurwr trenau, Stadler, yn cael eu danfon i ddepo TrC yn Nhreganna, yng Nghaerdydd, i’w profi.
Cyrhaeddodd y trenau FLIRT newydd (Class 231) yng Nghymru o’r Swistir a dyma’r cyntaf o 35 a fydd yn cael eu danfon dros y 24 mis nesaf gan Stadler.
Bydd y FLIRTS yn rhan allweddol o Fetro De Cymru, sef y prosiect trawsnewid gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd sy’n cael ei ddarparu gan TrC. Bydd y prosiect yn creu mwy o gapasiti a gwasanaethau amlach a fydd yn fwy gwyrdd i’r amgylchedd.
Drwy weithio gyda’r gwneuthurwyr trenau Stadler a CAF, mae TrC yn buddsoddi cyfanswm o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon a fydd yn dechrau rhedeg ar y rhwydwaith i gwsmeriaid y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
“Bydd y cerbydau newydd yn well o lawer na'r trenau y byddan nhw’n eu disodli, ar draws Dde Cymru gan gynnig mwy o gapasiti, gwasanaethau amlach a chyfleusterau gwell gan annog pobl i adael eu ceir a symud ymlaen at drafnidiaeth fwy cynaliadwy.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae’r ffaith bod y trenau newydd sbon hyn wedi cyrraedd yn garreg filltir bwysig arall i TrC ac mae’n gam arall tuag at ein rhaglen trawsnewid i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.
“Rydyn ni’n buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a fydd yn darparu mwy o le ar ein rhwydwaith, bydd ganddyn nhw fwy o seddi a seddi gwell, bydd ganddyn nhw system awyru, socedi pŵer a sgriniau gwybodaeth a fydd yn dangos yr wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr. Mae’r cwsmer wrth galon ein gwaith cynllunio yn TrC a bydd gan y trenau hyn fwy o le i feiciau, pobl â symudedd cyfyngedig a phramiau.
“Bydd pobl nawr yn dechrau gweld rhai o’n trenau newydd yn cael eu profi ar ein rhwydwaith ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr unedau newydd cyntaf yn ymuno â’r gwasanaeth i gwsmeriaid y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Sandro Muster, Rheolwr Prosiect yn Stadler:
“Mae’r ffaith bod yr uned gyntaf wedi cyrraedd Caerdydd yn achlysur pwysig i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect. Nid yn unig Stadler, ond ein cleient, Trafnidiaeth Cymru, ac yn fwy na neb arall, y bobl a fydd yn teithio arnyn nhw cyn bo hir. Bydd teithwyr yn sylwi ar wahaniaeth enfawr yn ansawdd y daith, y cysur a’r sylw i fanylion.
“Byddwn nawr yn dechrau ar raglen brofi helaeth i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer gwasanaeth masnachol. Bydd pob agwedd ar y trên, o’r nodweddion ar y trên i dreialon defnyddio ynni, lefelau sŵn a signalau, yn cael eu harchwilio’n drylwyr.”