Skip to main content

First brand new Transport for Wales trains unveiled

26 Ion 2023

Heddiw (26 Ionawr), cafodd y cyntaf o fflyd newydd sbon o drenau gwerth £800m Trafnidiaeth Cymru (TrC) ei lansio’n swyddogol gan Lesley Griffiths AS mewn seremoni yng Ngogledd Cymru.

Wedi’u hadeiladu yng Nghymru gan y gwneuthurwr trenau blaenllaw CAF, y rhain, sef 77 o drenau Dosbarth 197 newydd (51 gyda dau gerbyd a 26 gyda thri cerbyd), fydd asgwrn cefn gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar hyd a lled rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn y blynyddoedd i ddod.

Gan gynnig seddi lledr, systemau aerdymheru modern, drysau lletach a sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid, bydd y trenau newydd sbon yn chwarae rhan allweddol yng nghynlluniau TrC i drawsnewid y profiad a gaiff cwsmeriaid ar ei wasanaethau.

Dechreuodd y trenau newydd ar eu gwaith trwy wasanaethu teithwyr ar reilffordd Dyffryn Conwy ddiwedd 2022 a heddiw, fe’u dadorchuddiwyd mewn seremoni yng ngorsaf reilffordd Llandudno.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych. Wedi’u hariannu gan ein buddsoddiad o £800m mewn fflyd newydd o drenau, mae’r trenau dosbarth 197 yn chwarae rhan bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

“Ar ôl teithio ar un o'r trenau Dosbarth 197 newydd sbon hyn, gallaf dystio eu bod yn gysurus, yn gyflym ac mae digon o le arnynt.  Byddan nhw'n gwasanaethau teithwyr o Gymru ond maen nhw hefyd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: “Pleser o'r mwyaf heddiw oedd lansio’n swyddogol trenau newydd trawiadol Trafnidiaeth Cymru yma yn Llandudno.

“Mae’r fflyd hon a gafodd ei hadeiladu yng Nghymru yn arwydd o welliant pwysig i wasanaethau rheilffordd ac rwy’n siŵr y bydd teithwyr yn mwynhau teithio ar hyd llinellau Gogledd Cymru ar y trenau Dosbarth 197 hyn.”

Bydd y trenau newydd, sydd â mwy o le arnynt ac sy’n gyfforddus iawn, yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i redeg gwasanaethau cyflymach ac amlach i gyrchfannau fel Caergybi, Abergwaun a Lerpwl.

Mae'r 77 o drenau sy'n cael eu hadeiladu gan CAF hefyd â phwyntiau gwefru electronig arnynt ynghyd â nodweddion anabledd ar gyfer y rheini sydd â symudedd cyfyngedig.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae lansiad swyddogol trenau Dosbarth 197 yn ddiwrnod hollbwysig yn hanes Trafnidiaeth Cymru a diwydiant rheilffyrdd Cymru, gan ddadorchuddio’r trenau newydd sbon cyntaf yng Nghymru ers cenhedlaeth.

“Mae'r gwaith o adeiladu'r trenau newydd hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers pedair mlynedd.  Rydym yn hynod o falch ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu teithwyr arnynt am y tro cyntaf. Bydd y trenau yn rhan bwysig o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac yn ein galluogi i redeg mwy o wasanaethau a chludo mwy o gwsmeriaid yn gyfforddus.

“Mae hefyd yn bwysig cydnabod y cafodd y trenau hyn eu hadeiladu yng Nghymru, yn ffatri CAF yng Nghasnewydd.  Fe greodd y gwaith o'u hadeiladu swyddi yn ogystal â chefnogi’r economi leol.”

Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF UK: “Mae hwn yn ddiwrnod cofiadwy i CAF.  Rydym yn hynod falch ein bod wedi chwarae rhan allweddol yn cyflawni ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid teithiau trên teithwyr, gan sicrhau taith o ansawdd uchel, sy'n ddibynadwy a chyfforddus.

Caiff ein trenau’n eu hadeiladu yng Nghymru i wasanaethu cymunedau Cymru.  Mae hyn yn cefnogi swyddi medrus iawn a chreu swyddi lleol tra’n canolbwyntio ar faterion cynaliadwyedd a mynd i’r afael ag anghenion economi Cymru ar yr un pryd.”

Mae'r trenau Dosbarth 197 yn cyd-fynd â’r 71 o drenau a thramiau newydd sbon sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer Metro De Cymru.  Yn ddiweddar, fe ddechreuodd y cyntaf ohonynt wasanaethu teithwyr.

Bydd cyfanswm o 148 o drenau newydd sbon yn darparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach.

Bydd enw’r trên newydd sbon hwn hefyd yn cael ei ddadorchuddio gan enillydd rhanbarthol ein cystadleuaeth Taith Trên Odidog.  Roedd y gystadleuaeth yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i blant ysgolion cynradd fod yn rhan o hanes y rheilffyrdd drwy enwi hyd at 148 o’r trenau newydd sbon sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer Cymru a’i Gororau.

Gofynnwyd i blant ledled Cymru feddwl am enwau yn seiliedig naill ai ar le go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol sy'n gysylltiedig â lleoedd yng Nghymru a'i Gororau; ac i gyflwyno rhywbeth creadigol, fel cerdd, stori neu lun, i egluro pam y dewison nhw'r enw hwnnw.  Roedd Grace Webb, seren CBeebies, Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd poblogaidd ar S4C, Eloise Williams, Bardd Plant Cymru (Children's Laureate for Wales) a Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru ymhlith beirniaid y gystadleuaeth gyffrous hon.

Hefyd, roedd Y Daith Drên Odidog yn gyfle i rannu gyda plant ifanc pwysigrwydd teithio glân, cynaliadwy, yn ogystal â mewnwelediad arbennig i’r ffordd y caiff y trenau hyn eu hadeiladu a hanes ein rheilffordd yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion


Bydd y trenau Dosbarth 197 yn rhedeg ar y llinellau canlynol unwaith byddant mewn gwasanaeth:

- Arfordir Gogledd Cymru (Caergybi-Manceinion/Birmingham)

- Caerdydd-Caergybi

- Lein Dyffryn Conwy (Llandudno-Blaenau Ffestiniog)

- Lein y Gororau (Wrecsam-Bidston)

— Caer-Lerpwl

- Lein y Gororau (Caerdydd-Manceinion/Lerpwl)

- Lein y Cambrian (Birmingham-Aberystwyth/Pwllheli)

- Lein Glynebwy (Glyn Ebwy-Caerdydd/Casnewydd)

— Maesteg-Cheltenham

— Manceinion-Aberdaugleddau

— Caerdydd-Abergwaun

— Abertawe-Doc Penfro