19 Chw 2024
Dinasyddion Dyffryn Maesteg i fwynhau teithio ar drenau newydd sbon o’r wythnos hon ymlaen.
A hwythau wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru, mae fflyd y Trenau Dosbarth 197 wedi cael y golau gwyrdd i redeg ar hyd lein Maesteg i lawr i Ben-y-bont ar Ogwr ac ar draws i Sba Cheltenham trwy Gaerdydd, Casnewydd a Chas-gwent.
Mae'r trenau yn rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn gan Trafnidiaeth Cymru i uwchraddio cerbydau rheilffyrdd.
Dywedodd y Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Marie Daly y byddai'r trenau'n cynnig “profiad llawer gwell i’n cwsmeriaid”.
Dywedodd: “Mae gan y trenau newydd sbon hyn fwy o le arnynt ac mae'n yn fwy dibynadwy a byddant yn welliant amlwg ar y trenau y mae ein cwsmeriaid wedi arfer teithio arnynt.
“Mae lein Maesteg yn rhan bwysig iawn o'n rhwydwaith felly rwy'n falch iawn y bydd y bobl ar hyd y lein hon yn gallu teithio ar ein trenau newydd sbon a mwynhau'r manteision a ddaw yn sgil hynny.
“Mae gwasanaethau Maesteg yn rhedeg trwy Ganol Caerdydd ac ar draws i Sba Cheltenham, felly mae cael y trenau newydd hyn yn rhedeg ar hyd y llwybr hwn yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau â'n gweledigaeth i greu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac annog pobl i ddewis opsiynau teithio cynaliadwy.
“Bydd hwn yn brofiad cwsmer llawer gwell ac edrychaf ymlaen at weld cwsmeriaid yn teithio ar ein trenau yn fuan iawn.”
Dechreuodd ein fflyd trenau Dosbarth 197 ar eu gwaith y llynedd. Prynwyd 77 ohonynt gan CAF, gwneuthurwr o Sbaen, sydd bellach wedi sefydlu ffatri yng Nghasnewydd i adeiladu eu trenau yn y DU.
Y trenau hyn fydd asgwrn cefn ein fflyd sy'n gweithredu ar ein prif linell a gellir eu ffurfio gyda rhwng 2 a 6 cerbyd.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd a chyfrifoldeb am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych. Er ein bod wedi yn aros yn hir am newid, bellach, mae cymunedau ledled Cymru yn elwa ar ein buddsoddiad o £800m mewn cerbydau rheilffordd newydd.
“Rydym am ei gwneud yn haws i bobl ddewis defnyddio'r trên ac mae'r trenau newydd sbon hyn, a wnaed yng Nghymru, yn fodern ac yn gyfforddus, ac yn darparu profiad llawer gwell i deithwyr sy'n teithio yn ôl ac ymlaen o Faesteg.”
Yn dilyn cyflwyno'r gwasanaeth rhwng Maesteg a Cheltenham, rydym yn disgwyl lansio’r trenau ar lein Glynebwy a llinell Doc Penfro erbyn yr haf ac ar reilffordd y Cambrian yn 2025.
Wrth i fwy o'r trenau hyn ddod i'n meddiant, byddwn yn eu defnyddio i ddisodli ein trenau hŷn, ond efallai y bydd cwsmeriaid yn gweld y ddau fath o drên ar waith, yn ystod y cyfnod pontio hwn.