Skip to main content

New trains on the Ebbw Vale line

22 Ebr 2024

Mae trenau newydd sbon wedi cael eu lansio ar reilffordd Glynebwy heddiw (Dydd Llun 22 Ebrill) gan gynnig profiad mwy cyfforddus a dibynadwy i gwsmeriaid.

Wedi’u hadeiladu yng Nghasnewydd, mae’r trenau Dosbarth 197 wedi dechrau dod i mewn i wasanaeth ar y prif lwybrau o amgylch Cymru a’r Gororau.

Byddant yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chanol Caerdydd, yn ogystal â Chasnewydd, yn dilyn cyflwyno gwasanaethau newydd sbon ar y lein yn gynharach eleni.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae hyn yn newyddion gwych. Mae'r trenau hyn yn fodern ac yn gyfforddus ac yn darparu profiad llawer gwell i deithwyr. Mae hwn yn gam cadarnhaol arall ymlaen i wasanaethau rheilffordd Cymru.”

Mae’r trenau’n rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd i drawsnewid teithiau trên sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru, gan ddisodli trenau a oedd rhwng 30 a 40 oed.

Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru, Marie Daly: “Yn gynharach eleni roeddem yn gallu lansio gwasanaethau newydd sbon i Gasnewydd o Lynebwy diolch i fuddsoddiad cyhoeddus o £70 miliwn yn y gorsafoedd, y trac a’r signalau, a’r trenau newydd hyn yw’r cam pwysig nesaf i helpu i hybu’r economi ac i annog pobl i wneud teithiau mwy cynaliadwy.”

“Rwy’n falch iawn y bydd ein cwsmeriaid yng Nglynebwy yn elwa o’n trenau newydd sbon cyn bo hir. Mae’r trenau’n gyfforddus, ac yn cynnig mwy o gapasiti i’n cwsmeriaid.”

Wedi’u cydosod yn ffatri trenau CAF yn Llanwern, Casnewydd, bydd 77 o’r trenau dosbarth 197 yn gweithredu ledled Cymru ac ar hyd ei ffiniau, gan ffurfio asgwrn cefn y brif fflyd.

Bydd y trenau yn gallu rhedeg hyd at uchafswm o bedwar cerbyd ar reilffordd Glynebwy.

Roedd mis Ionawr yn nodi cyflwyno gwasanaethau newydd Casnewydd, gan bron â dyblu nifer y trenau sy'n gweithredu ar y rheilffordd gyda dau drên yn rhedeg yr awr, un i/o Gaerdydd ac un i/o Gasnewydd.

Tra bod y trawsnewid yn mynd rhagddo, mae'n bosibl y bydd cwsmeriaid yn dal i weld rhai o'r trenau hŷn ar waith, fodd bynnag bydd y rhain yn cael eu dirwyn i ben yn raddol dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd y Dosbarth 197 yn dechrau gweithredu i Ddoc Penfro yn ddiweddarach eleni ac ar reilffordd y Cambrian yn 2025.