Skip to main content

New trains on Pembroke line in time for summer

11 Meh 2024

Gall teithwyr fydd yn teithio i gyrchfannau poblogaidd fel Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot nawr deithio ar drenau newydd sbon gan y bydd trenau dosbarth 197 Trafnidiaeth Cymru yn dechrau gwasanaethu at hyd lein Penfro.

Ymddangosodd y trenau Dosbarth 197, trenau a adeiladwyd yng Nghymru, am y tro cyntaf ar y lein rhwng Abertawe/Caerfyrddin a Doc Penfro ddydd Llun 10 Mehefin, gyda'r mwyafrif o wasanaethau'n cynnwys tri cherbyd.

Mae modd cynnal gwasanaethau pedwar cerbyd ar y lein, sy'n creu mwy o le ac yn gwneud y daith yn fwy cyffyrddus yr haf hwn.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: “Ers i'r cyntaf o'n trenau newydd sbon ddechrau gwasanaethu'r llynedd, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ychwanegu mwy o lwybrau ledled Cymru.

“Rydym yn falch iawn o allu dechrau rhedeg trenau newydd ar lein Penfro yn barod ar gyfer gwyliau'r haf.

“Mae TrC wedi ymrwymo i ddarparu dewis amgen i bobl yn lle'r car.  Mae'r trenau newydd hyn yn gyfforddus iawn - mae ganddynt seddi gwell, system aerdymheru a sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid.”

Wedi'i hadeiladu yn ffatri drenau CAF yn Llanwern, Casnewydd, bydd 77 o'r 197 o drenau dosbarth 197 yn gwasanaethu ledled Cymru ac ar hyd ei ffin a'r Gororau unwaith y byddant i gyd ar waith.  Y trenau hyn fydd asgwrn cefn y fflyd ar hyd ein prif lein.

Er bod y cyfnod ymgynefino'n parhau, efallai y bydd cwsmeriaid yn dal i weld rhai o'r trenau hŷn ar waith ond bydd y rhain yn gadael y gwasanaeth yn raddol dros y blynyddoedd nesaf.