25 Chw 2025
Mae'r cyntaf o chwe thrên sydd wedi’u hadnewyddu’n arbennig er mwyn galluogi teithio â beiciau, wedi cael eu lansio ar lein Calon Cymru.
Fel rhan o’r broses o’u cyflwyno’n raddol, erbyn yr haf bydd cwsmeriaid yn gallu dod â hyd at 12 beic neu e-feic ar y gwasanaeth sy'n rhedeg rhwng Abertawe ac Amwythig.
Tan hynny, dim ond dau feic y gellid eu cymryd ar y trên, yn unol â phob trên TrC arall.
Mae'r trenau hyn yn cael eu cyflwyno er mwyn i bobl allu manteisio ar y cyfleoedd cerdded a beicio gwych yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Powys a Swydd Amwythig.
Byddant hefyd yn cynnig seddi ychwanegol o'u gymharu â'r trenau cerbyd sengl sy'n rhedeg ar y lein ar hyn o bryd.
Mae pob cerbyd beiciau wedi’u dylunio gyda lliwiau a thema arbennig i adlewyrchu'r hyn sydd gan lein Calon Cymru i'w gynnig.
Dywedodd Rheolwr Prosiect yn Trafnidiaeth Cymru, Matthew Payn, ei fod yn "ddatblygiad newydd a chyffrous i'r llinell reilffordd".
Dywedodd: "Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno ac yn fuddsoddiad bendigedig er mwyn gwneud y gorau o'r hyn sydd gan lein Calon Cymru i'w gynnig.
Erbyn yr haf, pan fydd yr holl drenau’n rhedeg, bydd modd cymryd hyd at 12 beic ar y trên ar gyfer gweithgareddau hamdden neu i gymudo.
"Mae'n enghraifft wych o ailgylchu – defnyddio trên hŷn a'u hadnewyddu at ddiben newydd i roi’r cyfle i fwy o bobl fynd allan a defnyddio eu beiciau i fwynhau rhai o'r ardaloedd gwledig gorau sydd gan Gymru a Lloegr i'w cynnig.
"Mae hwn yn gynnig unigryw i ni ac yn ddatblygiad newydd cyffrous i'r lein a dw i’n gobeithio y gall ein cwsmeriaid i gyd fwynhau’r gwasanaeth yn fuan."Mae'r cerbydau beic wedi cael eu hadnewyddu gan Chrysalis Rail yn nepo Glandŵr yn Abertawe ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r prosiect wedi gweld nifer o seddi yn cael eu tynnu o chwe thrên Dosbarth 153 TrC i wneud lle ar gyfer 10 beic, gyda lle i feiciau tandem hefyd. Bydd y cerbydau’n cynnwys cerbyd dosbarth safonol sy'n cynnwys toiled a lle cwbl hygyrch ar gyfer dau feic arall, sy'n ffurfio'r cyfanswm o 12.
Gan redeg gyda dau gerbyd, bydd y cerbydau beic yn cynnig cyfanswm o 108 sedd, cynnydd o 42 o'i gymharu â'r trenau cerbydau sengl sydd wedi bod yn gweithredu ar y lein cyn hyn.
Wrth i’r trên cyntaf wasanaethu ym mis Chwefror, bydd y pump arall yn ymuno â'r fflyd yn raddol hyd at yr haf er mwyn sicrhau cyflwyniad llwyddiannus.