Skip to main content

First South Wales Metro tram-train arrives at new depot

22 Maw 2023

Mae Metro De Cymru wedi cymryd cam pwysig arall ymlaen gyda dyfodiad y trên-tram newydd sbon cyntaf i ddepo newydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn Ffynnon Taf.  

Cludwyd y trên-tram Dosbarth 398 ar hyd y ffordd i ddepo newydd Ffynnon Taf dros nos ddydd Mawrth 21 Mawrth.

Mae’r trenau tram wedi’u hadeiladu gan Stadler, y gwneuthurwr blaenllaw o’r Swistir, yn eu ffatri yn Valencia, ac maent wedibod yn destun profion helaeth ers sawl mis yng Nghanolfan Arloesi a Datblygu Rheilffyrdd Network Rail yn Swydd Gaerlŷr.

Bydd y 36 o drenau tram yn rhan allweddol o Fetro De Cymru, gan ddarparu mwy o gapasiti a gwasanaethau amlach a fydd yn wyrddach i’r amgylchedd ac yn fwy hygyrch i gwsmeriaid.   Byddant yn dechrau gwasanaethu yn 2024 ar linellau Treherbert, Aberdâr, Merthyr a’r Ddinas, unwaith y bydd y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar ben, sy’n cynnwys prosiect trawsnewid Lein Treherbert a gyhoeddwyd ddoe.

Drwy weithio gyda gwneuthurwyr trenau Stadler a CAF, mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn a mwy mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau.  Dechreuodd y trenau newydd cyntaf weithredu ar ein gwasanaethau ar y rhwydwaith ddiwedd 2022.

Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein trên-tram cyntaf yn cael ei gludo i’n depo newydd yn Ffynnon Taf yn garreg filltir bwysig yn natblygiad Metro De Cymru ac yn benllanw ymdrech sylweddol gan gydweithwyr TrC a’n partneriaid yn y diwydiant dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Rydym ar daith drawsnewidiol yn Trafnidiaeth Cymru ac mae’r trenau newydd hyn yn rhan allweddol o wella profiad y cwsmer, fel y gallwn annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Mae’n rhain yn drenau modern, gyda nodweddion o ansawdd uchel a fydd yn cynnig trafnidiaeth fwy hygyrch, dibynadwy a gwyrddach i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd Inĭgo Parra, Is-lywydd gweithredol Stadler yn Sbaen: “Mae dyfodiad y trên-tram CITYLINK cyntaf yng Nghymru yn foment hynod symbolaidd i Trafnidiaeth Cymru, i Stadler ac i deithwyr Cymru a fydd yn cael y cyfle i deithio ar y cerbydau effeithlon, dibynadwy a hynod gyfforddus hyn.

"Gyda'r gallu i redeg ar rwydwaith tramiau a threnau, maent yn cynnwys system fatri, sy’n lleihau allyriadau carbon ac yn helpu'r cleient i osgoi buddsoddiadau seilwaith costus.”

Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd. 

Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad at swyddi, cyfleoedd hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.