Skip to main content

Wales' first hybrid train enters service on Borderlands Line

03 Ebr 2023

Ar Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston heddiw, cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) drenau batri-hybrid cyntaf i’w fflyd, trenau oedd yn arfer cael eu defnyddio i wasanaethu teithwyr yn rheolaidd yn Gymru.  Dyma’r tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd.

Gadawodd y gwasanaeth cyntaf hir-ddisgwyliedig a weithredir gan un o drenau Dosbarth 230 TrC Wrecsam Canolog am 07:31, yn dilyn misoedd o brofi a hyfforddi criw.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn berchen ar bum trên Dosbarth 230 tri-cherbyd, pob un a thros 120 o seddi a lle i dros 420 o gwsmeriaid – cynnydd sylweddol ar drenau blaenorol. Mae'r trenau metro hyn oedd yn arfer gwasanaethu ar London Underground, yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon ac ecogyfeillgar gan ddefnyddio diesel a batris.

Gyda thoiledau cwbl hygyrch, socedi pŵer, gwybodaeth electronig i deithwyr, Wi-Fi, raciau beiciau a systemau aerdymheru, mae’r trenau’n garreg filltir arwyddocaol i Trafnidiaeth Cymru, wrth iddynt barhau i gyflawni eu cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru a’r gororau.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych. Wedi’u hariannu gan ein buddsoddiad o £800m mewn fflyd newydd o drenau, mae’r Dosbarth 230au yn chwarae rhan bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd y trenau newydd hyn yn fwy cyfforddus, a bydd cyfleusterau modern a chyda’r injans hybrid newydd yn well i’r amgylchedd.”

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn hapus iawn bod y trên Dosbarth 230 cyntaf wedi dechrau gwasanaethu.  Gydag injans hybrid a chyfleusterau modern, bydd y trenau hyn yn gwella profiad cwsmeriaid ar Lein y Gororau yn sylweddol trwy ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti.

“Rydym wedi ymrwymo i wella'r gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Dinas-ranbarth Lerpwl.  Rydym eisoes wedi cyflwyno trenau newydd sbon ar wasanaethau rhwng Caer a Lerpwl, ac rydym yn bwriadu cynyddu amlder gwasanaethau rhwng Wrecsam a Bidston, yn ogystal â darparu gwasanaeth uniongyrchol newydd rhwng Llandudno a Lerpwl ar hyd arfordir Gogledd Cymru.”