Skip to main content

Young train lover receives behind-the-scenes tour of Chester station after leaving a hand-painted gift for his train driver

28 Awst 2019

Dydd Mercher diwethaf (14 Awst), derbyniodd un o yrwyr trenau Trafnidiaeth Cymru, Geraint Williams, anrheg arbennig iawn ar ôl i gwsmer ei stopio yng ngorsaf Gobowen a rhoi blwch arian wedi’i baentio â llaw iddo, a hwnnw wedi’i gynllunio i edrych fel Tomos y Tanc.

Ar ôl holi ar hyd y wlad i geisio canfod pwy wnaeth blwch, datgelodd Trafnidiaeth Cymru mai crëwr y blwch arian arbennig oedd Toby Healey (5 oed) – a bod y bachgen bach wedi rhoi darn £2 o arian ynddo er mwyn i yrrwr y trên allu prynu paned adeg ei seibiant nesaf.

Yn gyfnewid, gwahoddwyd Toby a’i dad gan Drafnidiaeth Cymru i brofi taith y tu ôl i’r llenni o gwmpas gorsaf Caer, oedd yn cynnwys cyfle i weld efelychydd trenau’r orsaf.

Ar ôl cael gweld y tu mewn i gaban gyrrwr go iawn ar blatfform y stesion gydag un o dîm Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, aeth Toby a’i dad, Edward Healey draw at y Ganolfan Efelychydd, ble cafodd Toby gyfle i weld sut roedd yn gweithio a chael tro ar ei yrru, hyd yn oed – ac wedyn cafodd fag o anrhegion yn gyfnewid diolchgar am ei anrheg garedig.

Bu tad Toby, Edward, yn sôn cymaint y bu i’r ddau fwynhau’r profiad: “Roedd Toby wedi paentio’r blwch arian siâp trên ei hun, ac roedd ef am i’r gyrrwr trên ei gael am ei fod yn meddwl y gallai ddefnyddio’r arian i brynu paned o de ar ôl shifft flinedig o yrru’r trên.

“Ar ôl ei roi i’r ddynes yng ngorsaf Gobowen, wnaethon ni ddim meddwl llawer mwy am y peth, felly cawsom sioc o dderbyn galwad gan Drafnidiaeth Cymru, yn ein gwahodd i gael taith rad ac am ddim o Gobowen i Gaer, gyda thaith dywys o gwmpas yr orsaf.

“Roedd Toby wrth ei fodd yn lân â’r holl brofiad – yn enwedig cael cyfle i eistedd yn sedd gyrrwr yr efelychydd – a dyw e ddim yn gallu aros tan iddo gael dweud wrth ei ffrindiau am yr hyn ddigwyddodd, pan fydd e’n mynd yn ôl i’r ysgol ym mis Medi!”

Meddai Nathan Scrivens, Hyfforddwr Gweithredol gyda Thrafnidiaeth Cymru: “Roedd hi’n bleser pur cael dangos gorsaf Caer i Toby a’i dad wythnos diwethaf. Mae’n wych gweld pobl ifanc yn dangos y fath frwdfrydedd dros ein rhwydwaith reilffyrdd, felly roedd yn deimlad braf iawn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i un o’n cwsmeriaid teyrngar.

“Roedd Toby’n llawn cwestiynau am y botymau a’r systemau rheoli yn yr efelychydd, ac fe wnaeth ei seinio corn yr efelychydd yn go aml – rhywbeth yr oedd wrth ei fodd yn ei wneud!”

Llwytho i Lawr