12 Tach 2026
Mae gweithredwyr trafnidiaeth yn atgoffa cefnogwyr rygbi sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref Cymru yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia i gynllunio ymlaen llaw.
Yn dilyn llwyddiant ein gweithredwyr trafnidiaeth ar ddiwrnod gêm Cymru yn erbyn Japan a welodd dros 50,000 o bobl yn teithio i mewn ac allan o’r ddinas, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Great Western Railway (GWR) yn disgwyl gofyn uchel parhaus ar draws y rhwydwaith trenau ar gyfer gweddill y gemau.
Mae cynlluniau ar gyfer trenau ychwanegol ac ar gyfer rheoli torfeydd o hyd yn eu lle er mwyn cadw cefnogwyr i symud mewn ffordd ddiogel ac effeithlon wedi i’r gêm orffen.
Bydd system giwio wedi’r gêm yn ei lle yng ngorsafoedd trenau Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines ar ôl pob gêm, yn dechrau o:
- 1530 ar gyfer Cymru yn erbyn Seland Newydd | 14 Tachwedd
- 2130 ar gyfer Cymru yn erbyn Awstralia | 21 Tachwedd
Gall cwsmeriaid ddefnyddio naill orsaf neu’r llall hyd nes i’r system reoli torfeydd ddechrau.
Ar ôl yr amserau hyn, caiff cwsmeriaid sy’n teithio i orsafoedd Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton, Bae Caerdydd, Penarth, Bro Morgannwg eu cyfeirio at orsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines.
Bydd yr holl giwiau eraill, gan gynnwys Glyn Ebwy, Maesteg, Cheltenham Spa a gwasanaethau tuag at Fryste, Llundain, Manceinion, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, ar sgwâr Caerdydd Canolog.
Bydd ciw hygyrchedd ar gael yn y ddwy orsaf.
Dywedodd Georgie Porter, Pennaeth Cynllunio a Chyflenwi Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: “Yn dilyn gweithrediad hynod o lwyddiannus ar gyfer gêm Japan, rydym yn barod i groesawu cefnogwyr yn ôl i Gaerdydd am ddau benwythnos arall o rygbi.
“Ein prif flaenoriaeth yw cludo pawb i Gaerdydd a’u cael nhw oddi yno mewn ffordd ddiogel a didrafferth. Mae’r systemau ciwio wedi’r gêm wedi’u dylunio i gadw cefnogwyr i symud mor gyflym ag sy’n bosib, ac rydym yn annog i bawb wirio pa giw sydd angen iddynt ymuno â nhw ar ôl y gêm ac i adael digon o amser ar gyfer eu teithiau.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid GWR, Rachel Geliamassi: “Rydym yn argymell yn gryf bod cefnogwyr sy’n teithio ar wasanaethau GWR i Gaerdydd Canolog yn archebu seddi ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw siom. Gall cynllunio ymlaen llaw ac archebu tocynnau’n gynnar eich helpu chi i ymlacio a ffocysu ar fwynhau’r rygbi.
“Byddem yn annog i gwsmeriaid wirio amserau’r teithiau a gadael digon o amser i fynd ar y trenau’n ddiogel. Cofiwch y bydd trenau’n hynod o brysur cyn i’r gêm ddechrau ac yn syth ar ôl y gêm hefyd.”
https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/gemau-rhyngwladol-yr-hydref
Nodiadau i olygyddion
- Gan nad oes lle bellach yng nghefn gorsaf drenau Caerdydd Canolog oherwydd gwaith paratoi TrC ar gyfer prosiect gwelliannau gorsaf drenau Caerdydd Canolog, mae TrC wedi bod yn cyfeirio holl gwsmeriaid llinellau’r Cymoedd a Bro Morgannwg i orsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines ar ôl pob digwyddiad Stadiwm Principality.
- Rhoddwyd y broses hon ar waith am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2026 ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Yr Eidal yng ngemau’r Chwe Gwlad a defnyddir yr un broses ar gyfer digwyddiadau mawr yn y ddinas ers hyn.