Skip to main content

TfW teams up with 225 Group and Branch Line Society for charity rail tour through Wales

07 Ebr 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ymuno â Branch Line Society a 225 Group ar daith reilffordd undydd arbennig ar drên Dosbarth Mark 4 er mwyn codi arian i elusennau Cymdeithas Alzheimer’s a Railway Children.

Bydd “Y Gerallt Gymro” yn gadael Caergybi ddydd Sadwrn 25 Ebrill am 07:08, gan deithio ar hyd arfordir Gogledd Cymru a pharhau ar hyd y Lein y Gororau odidog i Gasnewydd ac Abertawe, cyn dychwelyd ar hyd yr un llwybr gyda'r nos. Gall teithwyr hefyd ymuno â’r daith o orsafoedd ar hyd prif lein Gogledd Cymru gan gynnwys Caer a Crewe.

Mae'r daith yn cynnig y cyfle i deithio rhwng Caer a Crewe ar drên Dosbarth Mark 4 a dynnir gan locomotif Trên Dosbarth 67, lein nad yw'n aml yn cael ei defnyddio gan drenau o'r math. Bwriedir i'r trên hefyd deithio ar hyd rhannau o drac nad ydynt yn cael eu defnyddio yn rheolaidd gan drenau teithwyr gan gynnwys traciau cludo nwyddau, lein sy’n mynd yn syth trwy orsaf ac ar hyd ‘Dolen Lecwydd’ rhwng Parc Ninian a Phrif Lein De Cymru.

Ar y tren, Bydd bwydlen newydd y Gwanwyn/Haf TrC ar gael i ddathlu'r gorau o gynnyrch Cymru. Bydd gan gwsmeriaid Dosbarth Safonol yr opsiwn i brynu brecwast wedi'i baratoi'n ffres neu bryd gyda'r nos, wedi'i goginio gan ein cogyddion rhagorol ar y trên.

Bydd teithwyr Dosbarth Cyntaf yn cael dewis brecwast o fwydlen sydd wedi'i llunio'n arbennig i arddangos y gorau o gynhwysion Cymreig sydd ar gael ar y daith ddwyffordd, gan gynnwys:

  • Asbaragws Dyffryn Gwy wedi'i grilio
  • Cig Oen Dewi Roberts wedi'i weini â 'champ' Caerffili
  • Treiffl mefus wedi'i malu a mêl y Gororau

Bydd yr elw a wneir o'r daith yn cael ei gyflwyno i Railway Children ac elusen TrC ar gyfer 2026 sef Cymdeithas Alzheimer's.

Pris tocyn Dosbarth Safonol yw £99 i oedolyn a £79 i bobl dan 18 oed. Mae tocyn Dosbarth Cyntaf a gweini ar gael am £225 i oedolion a £205 i'r rheini o dan 18 oed. Mae tocynnau am bris gostyngol ar gael i aelodau Branch Line Society a 225 Group yn ogystal ag i staff TrC. Gellir archebu tocynnau ar-lein ar wefan Branch Line Society - https://branchline.uk/current-fixtures.php 

Nodiadau i olygyddion


Y trên Dosbarth 67 fydd ar waith gyda cherbydau Dosbarth Mark 4.

Mae'r gwasanaeth "Gerald of Wales / Y Gerallt Gymro" yn wasanaeth adnabyddus iawn sy’n cysylltu Gogledd a De Cymru.

Mae'r tren locomotif 67029 yn boblogaidd ymhlith dilynwyr y trên dosbarth 67 a gwnaed cais penodol amdano ar gyfer y diwrnod, cyn belled a bod gofynion gweithredol yn caniatau hynny.