Skip to main content

TfW trials personal announcement service for passengers with hearing loss

01 Meh 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi treialu gwasanaeth digidol newydd ar y trên sy'n darparu cyhoeddiadau gwybodaeth personol am deithiau i deithwyr sydd wedi colli eu clyw.

Cafodd y cais Hearing Enhanced Audio Relay (HEAR) ei brofi'n llwyddiannus ar drenau Trafnidiaeth Cymru ar lwybr Rhymni – Penarth am ddau fis, gyda'r nod o wneud teithiau teithwyr sydd wedi colli eu clyw yn well.

Mae'r rhaglen yn galluogi teithwyr sydd wedi cysylltu â'r Wi-Fi ar fwrdd y trên i dderbyn cyhoeddiadau personol am deithiau i'w dyfeisiau clyfar mewn amser real. Gellir teilwra'r hysbysiadau hyn yn benodol i ddewisiadau teithwyr, er enghraifft, dim ond eu hysbysu am gyhoeddiadau sy'n ymwneud â'u cyrchfan, mewn fformatau clywadwy a darllenadwy.  Ariannwyd HEAR gan yr Adran Drafnidiaeth drwy ei chystadleuaeth 'First of a Kind 2021' gwerth £9m, a gyflwynwyd gan Innovate UK (rhan o UKRI).

Dywedodd Michael Davies, Rheolwr Mewnwelediad ac Arloesi Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhwydwaith mor hygyrch â phosibl.  Mae gweithio gyda GoMedia ar HEAR wedi rhoi cyfle i ni ddod o hyd i ateb a allai gynnig manteision enfawr i gwsmeriaid ac annog pobl i ddewis defnyddio'r trên."

Amcangyfrifir bod colli clyw yn effeithio ar un o bob chwech o bobl ym mhoblogaeth oedolion y DU[1] ac erbyn 2031, bydd 14.5 miliwn o bobl, tua 20% o boblogaeth y DU, yn dioddef o ryw fath o golled clyw[2].  Mae dros 60% o deithwyr sydd ag anghenion hygyrchedd yn cael anhawster i deithio'n annibynnol, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn fwy hygyrch i bob teithiwr.

Ychwanegodd Roger Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr GoMedia: "Mae HEAR yn ateb mwy amlbwrpas a chost-effeithlon na dolenni clyw drud ar drenau.  Mae manteision y dull hwn hefyd yn ymestyn y tu hwnt i wella hygyrchedd teithwyr sydd wedi colli eu clyw.  Mae modd addasu'r ap ei hun, mae'n gweithio mewn sawl iaith a gall roi trosolwg i deithwyr o gyhoeddiadau a wnaed yn flaenorol a diweddariadau ynghylch oedi posib.  Mae hyn yn ei wneud yn offeryn defnyddiol i bob teithiwr, os ydynt yn ymweld o dramor neu'n hoffi ymlacio ar eu taith heb orfod pryderu am wrando ar gyhoeddiadau."

Datblygodd GoMedia - is-gwmni Icomera ac EQUANS – y dechnoleg gyda chymorth elusennau Hearing Link a Hearing Dogs gyda'r nod o leddfu'r anawsterau y mae teithwyr ag anghenion hygyrchedd yn eu hwynebu, gan ddefnyddio technoleg bwrpasol sy'n cael ei phweru gan wybodaeth amser real.

Canfu arolwg o 58 o bobl â cholled clyw a gynhaliwyd gan elusennau Hearing Link a Hearing Dogs y byddai 96% wrth eu bodd pe byddai dyfais fel HEAR ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus fel ar hyn o bryd.  Dim ond 7% oedd rhywfaint yn hyderus y byddent yn cael gwybod am newidiadau neu unrhyw newid neu amhariad i’w taith, a dim ond 16% oedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin yr un mor gyfartal â phobl a cholled clyw.

Nodiadau i olygyddion


[1] Ystadegau drwy garedigrwydd   Hearing Link  

[2] Diolch i   Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU  

Llwytho i Lawr