Skip to main content

TfW continues Cardiff Queen Street trial for Bristol Bears Big Days Out

27 Maw 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cadarnhau y bydd yn parhau â'i dreial rheoli torf yn dilyn gêm rygbi y Big Day Out rhwng Bristol Bears v Harlequins yn Stadiwm Principality.

Gan adeiladu ar lwyddiant y treial rheoli torfeydd yn dilyn gêm Chwe Gwlad Cymru yn erbyn yr Eidal, mae TrC yn parhau i wneud y ffordd y mae'n rheoli torfeydd hyd yn oed yn well yn ystod digwyddiadau mawr fel bod pob teithiwr yn cael profiad mwy diogel, esmwyth a mwy cyfforddus.

Daw'r treial i fod gan fod TrC yn baratoi i wneud gwaith ailddatblygu yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Yn fuan, bydd cefn yr orsaf yn cael ei ailddatblygu fel rhan o brosiect gwella gorsafoedd a rhaglen Cledrau Croesi Caerdydd.

Gan nad yw'r man ciwio arferol ar ôl y gêm bellach ar gael, bydd TrC yn parhau â'i dreial ciwio ar ôl gemau yng Ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd fel opsiwn i reoli torfeydd yn dilyn gêm ar gyfer y teithwyr hynny sy'n teithio i'r Cymoedd neu i Fro Morgannwg.

Gofynnir i deithwyr sy'n teithio i'r Cymoedd neu i Fro Morgannwg ar ôl y gêm ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn hytrach na gorsaf Caerdydd Canolog. Bydd system giwio ar waith o 17:00 ymlaen.

Bydd pob ciw arall yn ffurfio yn Sgwâr Caerdydd Canolog.

Cardiff Queen St Matchday Travel Welsh

Dywedodd James Gough, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid: “Roedd y treial ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Eidal yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn hapus iawn ein bod yn gallu rhoi'r trefniant ar waith unwaith yn rhagor y penwythnos hwn.

Mae pob digwyddiad mawr yn rhoi cyfle i ni wrando, addasu a gwella a hoffem ddiolch i'n teithwyr am eu cefnogaeth wrth i ni barhau i weithio i wella eu profiad.”

Hoffem atgoffa teithwyr y bydd gwaith peirianneg hanfodol yn cael ei wneud ddydd Sul (29ain Mawrth) ar y lein rhwng gorsaf Caerdydd Canolog ac Abertawe. Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith ar gyfer rhai o’r gwasanaethau trên ar hyd y lein. I gael rhagor o wybodaeth ewch i - https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/gwaith-gwella-a-gynlluniwyd 

Anogir cefnogwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw. Mae gwybodaeth deithio gyfoes ar gael yn https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/bristol-bears