09 Chw 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi agor ceisiadau ar gyfer ei Raglen Brentisiaethau 2026, gan gynnig cyfle i bobl ledled Cymru ennill, dysgu ac adeiladu sgiliau sy'n cefnogi gyrfaoedd hirdymor yn y sector trafnidiaeth.
Gan lansio i gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9 Chwefror i 15 Chwefror 2026), mae'r rhaglen yn tynnu sylw at ymrwymiad TrC i ddatblygu talent cynnar ac agor drysau i bobl ym mhob cam o'u taith gyrfa.
Gyda hanes cryf o ddatblygu prentisiaid i rolau parhaol, mae TrC yn parhau i ehangu ei lwybrau gyrfa gynnar, gan gynnig hyfforddiant o ansawdd uchel, cymwysterau cydnabyddedig a phrofiad prosiect yn y byd go iawn.
Mae gan y rhaglen gyfleoedd sy'n adlewyrchu'r arbenigedd amrywiol sydd ei angen i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae gan TrC 11 cyfle mewn 10 maes:
- Cynllunio Trenau
- Cynllunio a Chyflawni Digwyddiadau
- Cyflawni Seilwaith Rhwydwaith
- Dadansoddeg Data Busnes
- Cysylltiadau Cwsmeriaid
- Cadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau
- Dadansoddeg Masnachol
- Gweithrediadau Cwsmeriaid
- Systemau Pobl AD
- Rheoli Prosiectau
Dyma'r flwyddyn gyntaf i TrC gynnig prentisiaeth ym maes Cynllunio Trenau, Cynllunio Digwyddiadau a Chyflanwi, Seilwaith Rhwydwaith Cyflenwi, Rheoli Cadwyn Gyflenwi a Chytundebau, Dadansoddeg Masnachol a Dadansoddeg Data Busnes, gan ddangos ei fod yn awyddus i roi hwb i sgiliau ac arbenigedd yn y meysydd hynny.
Dywedodd Jade McIntosh, Rheolwr Talent Cynnar TrC:
"Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn llunio dyfodol ein sefydliad. Mae syniadau, egni a safbwyntiau newydd yn deillio ohonynt. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu trafnidiaeth ddoethach, gwyrddach a gwell i Gymru.
"Pleser yw lansio’r rhaglen brentisiad yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau a rhoi’r sbotolau ar y dalent anhygoel sy'n datblygu ar draws ein timau."
Mae ceisiadau bellach ar agor, ac mae TrC yn annog unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth, boed yn gadael addysg, yn newid gyrfa neu’n edrych i ddysgu sgiliau newydd, i ymgeisio a bod yn rhan o greu rhwydwaith trafnidiaeth gwell i Gymru.
Mae TrC yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb i noson agored i ddysgu mwy am y rhaglen brentisiaeth ar 12 Chwefror rhwng 5pm a 7:30pm ym Mhontypridd.
Gallwch ddarllen mwy a chofrestru yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/discover-your-future-transport-for-wales-apprenticeship-open-tickets-1981843164254
Mae ceisiadau'n cau am hanner nos ar 8 Mawrth 2026.
Anogir ceisiadau cynnar gan fod y cynllun fel arfer yn denu diddordeb mawr a gall gau cyn y dyddiad cau. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: https://jobs.tfw.wales/jobs/apprenticeships.
Nodiadau i olygyddion
Fel rhan o'r rhaglen, mae prentisiaid yn ennill profiad ymarferol gan weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, gyda chefnogaeth cyfleoedd datblygu strwythuredig trwy ei Academi Prentisiaethau. Mae'r Academi yn gwella dysgu technegol gan ddatblygu sgiliau ehangach, cyfleoedd mentora, a mynediad at ddosbarthiadau meistr arbenigol sy'n helpu prentisiaid i ffynnu yn broffesiynol ac yn bersonol.
Mae thema'r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni yn dathlu sut mae prentisiaethau yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau am oes, rhan hanfodol o ymagwedd TrC at dalent gynnar. Fel rhan o'r rhaglen, mae prentisiaid yn ennill profiad ymarferol gan weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, gyda chefnogaeth cyfleoedd datblygu strwythuredig trwy ei Academi Prentisiaethau. Mae'r Academi yn gwella dysgu technegol gan ddatblygu sgiliau ehangach, cyfleoedd mentora, a mynediad at ddosbarthiadau meistr arbenigol sy'n helpu prentisiaid i ffynnu yn broffesiynol ac yn bersonol.