24 Ebr 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi Diwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol mewn undod gyda’i bartneriaid undeb llafur.
Bob blwyddyn, mae’r undebau llafur yn uno i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn y gwaith, neu o anafiadau a salwch sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae eleni yn hynod deimladwy oherwydd y pandemig Covid-19 presennol, lle mae gweithwyr allweddol, gan gynnwys cydweithwyr yn TrC, yn dal ati i weithio ar y rheng flaen, gan beryglu eu bywydau i gadw’r wlad i symud.
Am 11:00 ar 28 Ebrill, bydd cydweithwyr TrC ledled Cymru a’r Gororau yn cymryd rhan mewn munud o ddistawrwydd i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau, ac i dalu teyrnged i’r rhai sy’n gwneud gwaith rheng flaen hollbwysig ar wasanaethau rheilffyrdd ac mewn diwydiannau eraill.
Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Ar Ddiwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol, rydym yn falch yma yn TrC i sefyll gyda’n partneriaid undeb llafur a chofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau.
“Rydym yn wynebu amseroedd anodd ar hyn o bryd ac mae’n staff rheng flaen yn dangos ymroddiad a dewrder diflino i helpu’r wlad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt ac i ddiolch hefyd i weithwyr allweddol eraill ledled gwahanol ddiwydiannau.”