24 Ebr 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ei rif WhatsApp newydd ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid, fel y cam diweddaraf yn ei ymrwymiad i drawsnewid profiad cwsmeriaid o wasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.
Gall cwsmeriaid bellach anfon neges at dîm cyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar yr ap, gan roi ffordd newydd sbon iddynt gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt wrth deithio ar drên. Mae’r tîm yn darparu gwybodaeth deithio fyw, diweddariadau ar ddigwyddiadau a allai effeithio ar deithiau, cymorth wrth gynllunio teithiau ac yn ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Meddai Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC:
“Rwy’n hapus iawn ein bod wedi cyflwyno ein sianel WhatsApp newydd. Mae ein cwsmeriaid yn ganolog ym mhopeth a wnawn, ac mae’r llwyfan newydd hwn yn cynnig ffordd arall iddynt gysylltu â ni, er mwyn i ni allu darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt.
“Dim ond un elfen yw hon o’n buddsoddiad £5 biliwn ehangach i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y gall pobl Cymru a’r Gororau ymfalchïo ynddo. Gallwch ddisgwyl gweld rhagor o welliannau yn y dyfodol agos, gan gynnwys cyflwyno ein cymorth drwy lwyfan Messenger Facebook yn y misoedd nesaf”.
Gallwch anfon neges at y tîm cyfryngau cymdeithasol ar WhatsApp ar 07790 952507 rhwng 07:00 a 20:00 dydd Llun i ddydd Gwener, 08:00 – 20:00 ddydd Sadwrn a 11:00-20:00 ddydd Sul.
Mae’r sianel newydd yn dilyn lansiad Rhod-Bot, sef cyfleuster sgwrsio ymateb ar unwaith dwyieithog, yn 2019. Mae’r cyfleuster, a enwyd gan y cyhoedd yn sgil pleidlais gan ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol TrC, yn cynghori a chyfeirio cwsmeriaid sy’n ymweld â gwefan Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.
Gall cwsmeriaid hefyd gysylltu â’r tîm cysylltiadau cwsmeriaid ar y ffôn ar 0333 3211 202, ar weffurflenni ar-lein gwefan Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC, a drwy fynd i @tfwrail ar Twitter.