18 Gor 2022
Heddiw (Dydd Llun 18 Gorffennaf), lansiwyd ‘Trafod Trafnidiaeth’ - pecyn cymorth newydd i wella'r cysylltiad sydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio i hwyluso sgyrsiau am drafnidiaeth mewn cymunedau. Mae’n rhan o gylch gwaith ehangach TrC i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chasglu safbwyntiau ganddynt, yn ogystal â chyflawni nodau uchelgeisiol sydd wedi'i hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Gall aelodau o’r cyhoedd a staff TrC fynd ati i hyfforddi fel hwylusydd a chael profiad ar sut i hwyluso gweithdai Trafod Trafnidiaeth. Mae’r pecyn cymorth hawdd ei ddefnyddio wedi’i lunio i helpu hwyluswyr ddilyn a chyflwyno’r sesiynau’n rhwydd, gan sicrhau bod unrhyw adnoddau y gallai fod eu hangen arnynt ar gael.
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y gweithdai drafod un o saith pwnc sy’n ymwneud â nodau TrC; Cynaliadwyedd, Diogelwch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Marchnata a Chyfathrebu, Teithio Llesol a Phrofiad y Cwsmer.
Dywedodd Kelsey Barcenilla, Rheolwr Rhanddeiliaid a chyd-arweinydd y prosiect: “Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd a sicrhau bod lleisiau amrywiol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn cael eu clywed. Bydd y pecyn cymorth yn darparu dull amgen o ymgysylltu o gymharu ag arolygon ar-lein sydd fel arfer yn ymgysylltu â demograffeg benodol.
“Rydym am ystyried uchelgeisiau hirdymor cenedlaethau’r dyfodol a thrwy uwchsgilio aelodau’r gymuned i fod yn hwyluswyr a hyrwyddo’r pecyn cymorth i grwpiau cymunedol ac ysgolion ar lawr gwlad, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i gymunedau, yn ogystal â llwyfan i greu newid o fewn y sector trafnidiaeth.
“Ein gobaith yw y bydd y syniadau a ddatblygwyd gan gymunedau drwy’r gweithdai yn llywio dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.”
O gael saith pwnc i ddewis o'u plith, gall yr hwyluswyr a'r cyfranogwyr ddewis yr un sydd fwyaf perthnasol i'w cymuned hwy. Mae’r gweithgareddau yn y pecyn cymorth wedi’u cynllunio i annog sgwrs anffurfiol a manwl, a bydd y gwerthusiad dilynol yn allweddol fel y gall Trafnidiaeth Cymru gael y cipolwg gorau ar ddymuniadau ac anghenion y cyhoedd a rhanddeiliaid. Yna, byddwn yn eu hysbysu o'r hyn y byddwn yn gobeithio ei wneud, ei newid neu weithredu arno er mwyn gwneud eu taith neu eu profiad yn well.
Cyflwynwyd cynlluniau peilot y pecyn cymorth ar y cyd â grwpiau a sefydliadau sy’n cynrychioli cymunedau â nodweddion gwarchodedig, grwpiau fel Grŵp Portiwgaleg CLWP, Leonard Cheshire, Clwb Cinio Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Pafiliwn y Grange a Myfyrwyr Gateway o Goleg y Drenewydd NPTC.
Dywedodd Elise Jackson, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol a chyd-arweinydd y prosiect: “Mae hwyluso gweithdai peilot cyntaf Trafod Trafnidiaeth wedi bod yn bleser o’r mwyaf. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan yr ymateb cadarnhaol a gawsom gan y cyfranogwyr. Mae'r gweithdai hyn yn rhoi cyfle unigryw i ni gael cipolwg ar fyfyrdodau a theimladau pobl ynghylch trafnidiaeth. Ond yn fwy na hynny, maent yn caniatáu inni agor y drws i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol i unigolion nad ydynt efallai erioed wedi ystyried ei fod yn opsiwn.
“Byddwn yn defnyddio gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau canolfannau cymunedol lleol, ysgolion, prosiectau a arweinir gan y gymuned a grwpiau sy’n cynrychioli nodweddion gwarchodedig. Bydd hyn yn allweddol i’n llwyddiant cyffredinol.”
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad hyfforddi i hwyluswyr bob blwyddyn. Os oes gennych chi ddiddordeb hyfforddi i fod yn hwylusydd neu gymryd rhan mewn gweithdy, cysylltwch â engagement@tfw.wales
Mae Pecyn Cymorth Trafod Trafnidiaeth ar gael ar ein gwefan yma Trafod Trafnidiaeth | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)