Skip to main content

TfW launches journey alerts to help passengers stay one step ahead with personalised updates

26 Tach 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid olrhain eu teithiau trên, gyda diweddariadau personol yn cael eu hanfon at eu ffonau drwy WhatsApp neu Facebook Messenger yn rhad ac am ddim.

Mae Negeseuon TrC yn darparu gwybodaeth mewn amser real ar gyfer teithiau trên ledled y DU, gan helpu cwsmeriaid i gael eu diweddaru’n rheolaidd wrth deithio. Gall cwsmeriaid dderbyn diweddariadau personol ar yr un diwrnod sy’n cynnwys:

  • Amserau cyrraedd ar amcangyfrif
  • Gwybodaeth ynglŷn â phlatfformau
  • Gwybodaeth fyw ynghylch sut mae teithiau’n datblygu
  • Hysbysiadau o unrhyw oedi neu deithiau’n cael eu canslo

Gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn am ddim ac mae ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

P’un a yw cwsmeriaid yn prynu tocynnau ymlaen llaw neu’n defnyddio talu wrth fynd, gall TrC roi gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn eu helpu nhw i gynllunio a rheoli eu teithiau.

Dywedodd Rheolwr Strategaeth Gwybodaeth i Gwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Teleri Evans, “Rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid gael eu diweddaru’n rheolaidd a theimlo’n hyderus drwy gydol eu taith. Dyna pam rydym yn parhau i weithio i wneud gwybodaeth deithio’n gliriach, yn fwy defnyddiol ac yn haws i gael mynediad ati.

“Gan fanteisio ar wybodaeth amser real gan Darwin, sef peiriant gwybodaeth swyddogol diwydiant rheilffordd y DU am wasanaethau trenau, mae system Negeseuon TrC yn gam arall yn y gwaith hwnnw. Byddwn yn parhau i wrando ar ein cwsmeriaid a chwilio am ffyrdd o hwyluso eu profiadau teithio.”

I ddechrau defnyddio Negeseuon TrC, gall gwsmeriaid naill ai clicio ar yr eicon o’r gloch ar ap TrC, mynd i dudalen we Negeseuon TrC, neu sganio’r cod QR ar bosteri Negeseuon Teithiau mewn gorsafoedd detholedig.

Gall cwsmeriaid ddewis rhwng negeseuon byw ar gyfer teithiau cyfredol neu ddiweddariadau rheolaidd ar gyfer llwybrau y maent yn teithio arnynt yn gyson. Anfonir pob neges drwy WhatsApp neu Facebook Messenger yn uniongyrchol.

Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio’r nodwedd ‘Buddy’ er mwyn rhannu eu teithiau’n hawdd gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu. Rhowch gynnig ar Negeseuon TrC: Negeseuon TrC

Nodiadau i olygyddion


  • Mae Negeseuon TrC ar gael ar gyfer unrhyw daith yn y DU
  • Caiff Negeseuon TrC ei bweru gan Darwin, sef peiriant gwybodaeth swyddogol diwydiant rheilffordd y DU am wasanaethau trenau, gan ddarparu amserau cyrraedd ac ymadael amser real ar amcangyfrif, rhifau platfformau, amserau oedi ar amcangyfrif, newidiadau a gynlluniwyd, a theithiau sydd wedi’u canslo. Yr un peiriant sy’n darparu gwybodaeth amser real ar gyfer Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid yn y gorsafoedd a’r Bwrdd Ymadael Byw ar y wefan a’r apiau.
  • Bydd Negeseuon TrC yn anfon diweddariadau drwy Whatsapp a Facebook Messenger i’r cwsmer yn seiliedig ar y wybodaeth amser real sydd ar gael yn Darwin.