Skip to main content

TfW's extensive cleaning to fight coronavirus

20 Ebr 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio 24 awr y dydd i sicrhau diogelwch a llesiant y gweithwyr allweddol sy’n defnyddio ei wasanaethau, fel rhan o’i ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Mae staff TrC yn gweithio drwy'r dydd a’r nos mewn ymdrech i sicrhau bod trenau’n cael eu glanhau’n rheolaidd, gan ddefnyddio’r cynnyrch gorau sydd ar gael a chanolbwyntio ar y mannau lle ceir llawer o gyswllt.


Dros y chwe wythnos diwethaf, mae glanhawyr ychwanegol wedi cael eu cyflogi ar gyfer y shifftiau dydd a nos mewn depos trenau ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau, ac mae deunyddiau glanhau ychwanegol ar gael ar drenau.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Mae diogelwch a llesiant ein cwsmeriaid – gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n weithwyr allweddol – yn flaenoriaeth lwyr i ni, yn ogystal â diogelu ein staff sy’n cadw’r rhwydwaith rheilffyrdd yn rhedeg.

“Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrth-feirysol sy’n diogelu am 7 niwrnod, ac rydyn ni’n glanhau trenau’n drwyadl o leiaf bob 24 awr, ac rydyn ni’n glanhau pwyntiau cyswllt amlwg yn rheolaidd fel byrddau, handlenni ac unrhyw le lle mae pobl yn rhoi eu dwylo’n rheolaidd.

“Rydyn ni wedi cynyddu ein timau glanhau i wella ein capasiti ar gyfer y gwaith glanhau ychwanegol sydd ei angen ac rydyn ni wedi rhoi’r offer angenrheidiol iddynt er mwyn iddyn nhw aros yn ddiogel eu hunain. Fel gweithwyr allweddol mae pob un ohonyn nhw’n gwneud gwaith rhyfeddol.”

Mae TrC newydd lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol fer i annog eu cwsmeriaid i aros gartref ac mae’r ffigurau diweddar yn dangos bod nifer y teithwyr wedi disgyn 95%. Maen nhw’n rhedeg 500 o wasanaethau bob dydd i ddarparu cysylltiadau hanfodol i weithwyr hanfodol ac mae gweithwyr y GIG yn cael teithio am ddim.

Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Wrth i ni barhau i wynebu’r argyfwng yma mae’n hollbwysig ein bod yn galluogi ein gweithwyr allweddol i ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth hanfodol ac mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud hyn o dan amgylchiadau heriol iawn. Rydym felly’n croesawu’r ffaith y bydd eu gwaith glanhau yn ehangu er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n gweithio mor gale di sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn lân, yn parhau i weithredu ac yn cefnogi ein gwlad yn ystod cyfnod mor anodd.”