01 Meh 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ffarwelio â’r olaf o’r trenau Pacer ar ôl dros 30 mlynedd o wasanaeth, gan nodi diwedd cyfnod i reilffyrdd Prydain.
Dydd Sadwrn 29 Mai oedd y tro olaf i’r trenau Class 143 redeg ar rwydwaith cymoedd De Cymru. Dros eu hoes, roedden nhw wedi gweithredu’r hyn sy’n cyfateb i dros bum taith i’r Lleuad ac yn ôl.
Mae trenau mwy o faint a mwy modern, â gwell hygyrchedd, wedi cymryd lle’r trenau Pacer. Mae TrC hefyd yn bwrw ymlaen i adeiladau trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru, a fydd yn dechrau gweithredu yn 2022.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae diwedd gwasanaeth hir ein trenau Pacer yn gam allweddol yn y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru. Er bod trenau Pacer wedi gweithio’n galed ledled ein rhwydwaith dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae ein cwsmeriaid yn haeddu trenau mwy modern sy’n darparu gwell cyfleusterau, gwell hygyrchedd a thaith fwy cyfforddus.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed tu ôl i’r llenni er mwyn darparu trenau newydd sbon yn lle’r fflyd bresennol. Bydd y rhain yn darparu capasiti uwch a theithiau sy’n gyflymach ac yn fwy gwyrdd yn y blynyddoedd i ddod. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi cyflwyno’r trenau Class 769. Mae’r rhain yn fwy o faint ac yn darparu capasiti uwch a phrofiad gwell i gwsmeriaid.”
Dechreuodd TrC dynnu ei drenau Pacer yn ôl ym mis Rhagfyr 2020. Ond nid yw pob un ar ei hynt i’r iard sgrap. Mae un trên Pacer eisoes wedi’i roi i Reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yn Sir Gaerfyrddin a bydd llawer mwy yn cael eu rhoi i reilffyrdd treftadaeth a phrosiectau cymunedol dros yr wythnosau nesaf.