Skip to main content

TfW achieves gold membership for third consecutive year

07 Tach 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn un o 89 o gyflogwyr o faint sylweddol  i ennill aelodaeth aur fel rhan o Gynllun Archwilio Cyflogwyr 2025–26 y 5% Club.

Mae'r gydnabyddiaeth yn nodi’r drydedd flwyddyn yn olynol i TrC ddangos ei ymrwymiad i feithryn talent drwy fentrau "gweithio a dysgu" gan gynnwys prentisiaethau, rhaglenni graddedigion, a noddi lleoliadau i fyfyrwyr. 

Mae'r ‘5% Club’ yn sefydliad aelodaeth o gyflogwyr blaenllaw sydd wedi ymrwymo i greu llwybrau ar gyfer twf proffesiynol a meithrin gweithle mwy cynhwysol, amrywiol a hygyrch. 

Er mwyn cyflawni Aelodaeth Aur, mae sefydliadau'n ymrwymo i broses Archwilio Cyflogwyr trwyadl sy'n asesu eu hymdrechion o ran rhaglenni "dysgu ac elwa", dyheadau i’r dyfodol, ac ymroddiad i symudedd cymdeithasol, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Dywedodd Tina Rees, Pennaeth Recriwtio TrC:   "Rydyn ni'n falch o ennill Aelodaeth Aur am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'n arddangos ein hymrwymiad i gefnogi pob unigolyn i gyrraedd eu potensial llawn, nid yn unig ein sefydliad ond hefyd y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.  

"Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi parhau i edrych ar sut y gallwn ddenu mwy o bobl ifanc i'n sefydliad. Erbyn hyn, rydym yn ceisio rhoi mwy o bwyslais ar ymgysylltu ag ysgolion, colegau a phrifysgolion. Rydym wedi cryfhau ein partneriaethau; gan gynnwys Cynllun Partner Gwerthfawr Gyrfa Cymru, ac rydym wedi hyrwyddo ein gwaith rhithwir i ysgolion a chynulleidfaoedd iau i helpu i ehangu cyfranogiad a hygyrchedd trwy SpringPod.  

"Mae'r dull cydweithredol a rhagweithiol hwn nid yn unig wedi cryfhau ein recriwtio talent, ond hefyd wedi gwella ac adeiladu ar y sylfeini yr ydym eisoes wedi'u sefydlu yn y gofod hwn."   

Dywedodd Mark Cameron OBE, Prif Weithredwr The 5% Club:  "Rydym yn hynod falch o'n cyflogwyr rhagorol megis TrC sy'n parhau i osod safonau uchel ar gyfer dysgu yn y gweithle. Mae eu hymroddiad i greu cyfleoedd ‘dysgu ac elwa’ cyfoethog ac amrywiol yn gosod esiampl ryfeddol.

“Trwy ennill aelodaeth Aur, mae TrC wedi dangos ymrwymiad eithriadol i fuddsoddi mewn pobl — sef siapio sgiliau yfory a chreu effaith barhaol ar fusnes a chymdeithas."  

Ychwanegodd Gill Cronin, Cyfarwyddydd Gweithrediadau The 5% Club:  "Mae'n wirioneddol ysbrydoledig gweld brwdfrydedd ac arweinyddiaeth ein haelodau wrth ddatblygu talent.

“Mae aelodaeth Aur TrC yn enghraifft dda o sut y gall buddsoddiad pwrpasol mewn pobl ddarparu cyfleoedd, cynhwysiant a rhagoriaeth. 

“Bellach, wrth i 20% o'n haelodau gyrraedd yr haenau uchel hyn, mae sefydliadau megis TrC yn parhau i baratoi'r trac ar gyfer gweithlu’r dyfodol." 

Nodiadau i olygyddion


  • Mae'r 5% Club yn gweithio gyda chyflogwyr a dylanwadwyr allweddol i ysbrydoli gweithredu cadarnhaol ar gyfer dysgu mwy hygyrch yn y gweithle — gan ganolbwyntio ar brentisiaid, myfyrwyr noddedig, a graddedigion. Ei genhadaeth yw rhoi hwb i gyflogaeth ieuenctid, gwella rhagolygon gyrfa, a helpu'r Deyrnas Gyfunol i adeiladu gweithlu medrus sy'n barod i'r dyfodol. Wedi'i sefydlu yn 2013, mae'r 5% Club % yn parhau i dyfu fel grym deinamig er daioni. 
  • Mae aelodau'r 5% Club yn ymrwymo i:  

- Cefnogi twf a chydnabod pwysigrwydd datblygu pobl fel blaenoriaeth fusnes a chymdeithasol.    

- Chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â diweithdra ieuenctid a chau bylchau sgiliau.    

- Addo cael o leiaf 5% o'u gweithlu mewn i gynlluniau "dysgu ac elwa" ffurfiol o fewn pum mlynedd.   

 - Mesur ac adrodd cynnydd bob blwyddyn yn eu hadroddiadau Cynaliadwyedd Cwmni neu adroddiadau cyfatebol.    

- Annog cyflogwyr eraill i ymuno â'r mudiad. 

  • Heddiw, mae mwy na 1,200 o sefydliadau ar draws pob sector a maint yn rhan o'r 5% Club, sydd yn cynrychioli 2 filiwn o weithwyr, gyda thua 121,000 mewn swyddi "dysgu ac elwa". 

Llwytho i Lawr